twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

Gan weithio gyda’r athro celf mewn Uned Cyfeirio Disgyblion yng Ngogledd Lloegr, ymgysylltodd y prosiect hwn â 9 person ifanc mewn sesiynau wythnosol dros wyth wythnos. Fe weithion ni’n greadigol gyda’u hegni, gan eu hannog nhw i ddod o hyd i ffyrdd o’u mynegi eu hunain trwy gynnig deunyddiau a thechnegau ar gyfer gwneud arteffactau a allai alluogi mathau newydd o fynegiant. 

Mae addysgu pobl ifanc agored i niwed yn gofyn am ddulliau gweithredu gwahanol sy’n gallu ailddychmygu ymddygiad heriol. Roedd angen i ni ddatblygu dulliau addysgol sy’n cydnabod y gwaith seicig ychwanegol sy’n ofynnol pan fydd pobl ifanc wedi cael eu trawmateiddio gan ddigwyddiadau bywyd. Pan fydd angen gwneud ymdrech i amddiffyn y byd rhag poen, mae llai o le yn y meddwl ar gyfer gwaith academaidd.

Yn aml, nid yw plant agored i niwed yn teimlo’n ddiogel yn y byd. A phan fydd plant a phobl ifanc wedi cael llawer o brofiadau niweidiol wrth dyfu, gallan nhw weithiau gael eu trawmateiddio. Mewn ysgolion, gall digwyddiad syml iawn ailsbarduno’r ofn, y pryder neu’r teimlad eithafol o golli rheolaeth sy’n rhan o drawma. Weithiau, gall ‘ffrwydrad’ ddigwydd. 

Mae ffrwydrad yn un math o ymddygiad heriol; gallai rhai eraill wneud plentyn neu berson ifanc yn fud. Nod yr amddiffynfeydd hyn yw achub y plentyn rhag poen, ac eto, ar yr un pryd, maen nhw’n aml yn ei wahanu oddi wrth y byd cymdeithasol. Gall y digwyddiadau hyn fod yn frawychus iawn i’w gweld. Er bod athrawon yn aml yn teimlo cyfrifoldeb i reoli neu atal y ffrwydrad, mae llawer o ddulliau cynhyrchiol sy’n gweithio gyda’r ymddygiad heriol yn hytrach nag yn ei erbyn.

Mae’r fideo byr hwn gan artswork yn dangos yr effaith mae creadigrwydd yn gallu ei chael ar fywydau pobl ifanc.

 

Weithiau, mae’n bosibl gweithio gydag egni cryf a’i ailgyfeirio’n greadigol, gan alluogi math o fynegiant a allai ailgysylltu plentyn agored i niwed â’r byd cymdeithasol.

 

Gweithio gydag egni’n greadigol

Mae Jay [ffugenw] newydd ffrwydro’n llwyr. Roedd wedi blino’n lân, a phan ddaeth yn ôl i’r ystafell ddosbarth roedd fel petai mewn niwl, wedi’i ddatgysylltu o’r byd o’i flaen. Ni allai roi sylw llawn i’r hyn oedd yr addysgwr yn gofyn iddo ei wneud.

Fe orchuddion ni’r ddesg â phapurau newyddion a gosod darn o bapur dyfrlliw (sy’n fwy amsugnol na phapur cyffredin) drostyn nhw. Roedd gennym ni botiau o baent crisial mewn nifer o wahanol liwiau. Paent powdr yw paent crisial sy’n creu effeithiau anrhagweladwy a phrydferth pan fydd yn dod i gysylltiad â dŵr. 

Fe ddewison ni hoff liw Jay a thaenu paent crisial ar y papur...yna fe gymeron ni frwsh paent, ei roi yn y dŵr a’i dasgu ar draws y papur.

Wrth i’r dŵr gyfarfod â’r crisial, daeth ffrwydrad o liw i’r amlwg. Tynnwyd sylw Jay at y paent oedd yn symud. Wrth i’r crisialau ddod i gysylltiad â’r dŵr, troellodd y paent tuag allan gan drawsffurfio’r hyn oedd yn edrych fel smotyn tywyll o bowdr yn chwyrliadau llifeiriol o liw. Roedd Jay fel petai wedi’i fesmereiddio gan harddwch yr effeithiau a gofynnodd a gâi roi cynnig arno ei hun.

Fe roddon ni frwsh paent a phapur i Jay. Fe ddechreuodd e greu. Wrth iddo wneud hynny, tawelodd yn raddol ac ymgollodd yn llwyr yn effeithiau’r paent. 

1: Mae grym ffrwydrad yn cael ei gyfleu trwy symudiad paent. 

2: Mae Jay yn dechrau creu.

3: Parhaodd Jay i arbrofi â’r paent crisial a dewisodd dempled yr oedden ni wedi’i greu o ffigurau amrywiol. Gwnaeth lun o grwban yn nofio yn y môr. Efallai bod hyn yn dangos ei daith emosiynol yn ystod y wers awr o hyd. 

 

Mae nodweddion paent crisial yn creu patrymau haniaethol, sy’n rhoi digon o le i blant a phobl ifanc ddefnyddio eu dychymyg i fynegi teimladau.

 

1: Dywedodd person ifanc arall, sef Hayley, wrthyn ni ei bod hi’n gweld llawer o wahanol emosiynau yn ei darlun hi.

2: Yn y rhan hon o’i darlun, cyfeiriodd at ‘farwolaeth, dicter, tristwch, rhwystredigaeth, drygioni ac anobaith’.

3: Yn y rhan hon, cyfeiriodd at hapusrwydd, cariad a chyfeillgarwch. 

Mae’r gweithgaredd paent crisial yn un enghraifft yn unig o’n hymgysylltiadau creadigol â phobl ifanc. 

Yn ystod chwe gweithdy, fe ddefnyddion ni lawer o ddeunyddiau a dulliau i alluogi mynegiant creadigol... 

Y Gist Chwilfrydedd

Y cynllun ar gyfer y gweithdy cyntaf oedd creu ‘cist chwilfrydedd’ i gyfleu gwahanol emosiynau. Gan ddefnyddio cardbord, siswrn, paent, papur sidan, cylchgronau, ffabrig a gwrthrychau bach plastig a naturiol, gwahoddwyd y bobl ifanc i gynrychioli pedwar emosiwn mewn rhannau o’r blwch. Gwnaeth y bobl ifanc guradu’r hynodbethau gorffenedig a’u trefnu mewn cist. Agorodd y trefniant le i ystyried sut oedd yr emosiynau hynny’n gysylltiedig ac yn ddisgyswllt. Fe welon ni hefyd fod dylunio’r gist yn fodd o fynegiant i’r bobl ifanc. Roedd un bachgen yn gallu mynegi ei ddymuniad am ffiniau clir a llinellau syth trwy rannu’r lleoedd yn rhannau cyfartal.

Mygydau teimladau

Yn y sesiwn hon, fe ddefnyddion ni’r arteffactau a’r delweddau a grëwyd yn ystod y ddwy sesiwn gyntaf. Fe ddefnyddion ni’r deunyddiau a ddewiswyd i gynrychioli emosiynau i greu corff. Fe ychwanegon ni ddeunyddiau fel geiriau caneuon a’r symbolau, a’u gludio ar ffurfiau corff mawr. Crëwyd y ffurfiau corff trwy dynnu llinell o amgylch corff bachgen wrth iddo orwedd ar ddarn mawr o bapur. Trawsffurfiodd yr holl ddeunyddiau hyn yn ludwaith ffurf corff. Nesaf, gan ddefnyddio pennau lliw, fe arysgrifennon ni ein symbolau ar y mygydau gwag.

Gwnewch eich mygydau eich hunain trwy ddilyn y gweithgaredd DIY ar ddiwedd yr astudiaeth achos hon!

Ffilmio teimladau

Fe aethon ni ar daith yn y sesiwn hon! Aeth y bobl ifanc allan i archwilio adeiladwaith yr ysgol, yr adeiladau a’r tir. Gan ddefnyddio Go-Pro a chamerâu fideo, fe dynnon nhw luniau a ffilm o wrthrychau a lleoedd a ddaliodd eu sylw neu oedd yn teimlo’n ystyrlon. Defnyddiwyd y ffilm i fyfyrio ar brofiadau o’r ysgol ac fel modd o edrych ar dir cyfarwydd yr ysgol mewn ffordd wahanol. Yna, fe olygon ni’r ffilm gyda’n gilydd i greu ffilmiau byr i’w defnyddio yn y sesiwn nesaf...

Yr un ysgol, lle gwahanol

Yn y gweithdy hwn, fe greon ni fyrddau stori ar gyfer ffilmiau byr, wedi’u poblogi gan y cymeriadau roedden ni wedi’u datblygu yn ystod y sesiynau blaenorol. Fe ddefnyddion ni’r ffilm o dir yr ysgol i ddatblygu’r themâu. Roedden ni’n gallu ailddychmygu ac ailfframio nodweddion o adeiladau’r ysgol mewn ffyrdd newydd a diddorol. Trwy ganolbwyntio ar griliau, gridiau, darnau o graffiti, cypyrddau tywyll, drysau wedi’u cloi a phibellau, fe ailddychmygon ni’r ysgol mewn ffordd gothig. Yn olaf, fe ychwanegon ni drac sain â naws arswyd.

Ein hiaith ddirgel

Yn y sesiwn hon, dewisodd y bobl ifanc arwyddion, logos, motiffau (fel symbolau Maori a Cheltaidd), yn ogystal â lluniau o datŵs ac arfbeisiau oedd yn teimlo’n ystyrlon mewn rhyw ffordd. Yna, fe ddychmygon ni’r system hon o arwyddion fel iaith ddirgel emosiynau. Ar ôl dewis y symbolau, fe gerfion ni nhw ar fyrddau leino. Yna, printiwyd y dyluniadau gorffenedig ar bapur lliwgar.

Super-abilities

Yn y sesiwn olaf, fe ddaethon ni ag elfennau’r gweithdai blaenorol at ei gilydd, gydag un ychwanegiad pwysig, uwch-bwerau!

Gan weithio gyda phob person ifanc yn ei dro, fe archwilion ni agweddau ar eu hymddygiad oedd yn cael eu hystyried yn heriol neu’n dod o fewn diffiniad o anabledd. Yna, fe ailddychmygon ni nhw, yn lle hynny, fel uwch-alluoedd - ffordd wahanol o roi sylw i’r byd!

“Mae dod o hyd i ffordd o’u mynegi eu hunain yn darparu modd o greu llwybr a allai ailgysylltu plentyn agored i niwed â’r byd cymdeithasol. Yn aml, mae plant yn eu mynegi eu hunain trwy ryddid dewis gwrthrych neu liw. Rydyn ni’n gweld hyn yn eu ffasiwn, eu hoff gerddoriaeth, eu hoff liwiau ac ati. Gall athrawon roi sylw agos i hoff liw plentyn, er enghraifft, a defnyddio hyn mewn gweithgareddau”. Yr Athro Ivinson

 

I ddeall mwy am yr egni mae hyn yn ei greu ymhlith pobl ifanc a sut i weithio gyda’r egni hwn yn greadigol, gwyliwch y ffilm “Ailddychmygu chwarae” a wnaed mewn ysgol amgen gyda Mr Forbes yr athro celf, yr Athro Gabrielle Ivinson, Dr Mark Sackville-Ford a’r gwneuthurwr ffilmiau Matt. Gallwch wylio ffilm am y prosiect hwn yma. 

 

Mae gan amgueddfa Tate adnoddau diddorol ar wneud mygydau yma

Cynhaliodd amgueddfa Brooklyn arddangosfa lle’r oedd 25 o artistiaid cyfoes yn ymgysylltu â mygydau a chelf fyd-eang

Mae David Henry Nobody Jr yn artist ac Instagramiwr sy’n gwneud mygydau coeth. Gwyliwch fideo am ei waith yma 

 

Yn ogystal, fe greon ni stori lle mae un o’r myfyrwyr yn defnyddio ei uwch-bwerau i ymchwilio i ddigwyddiad dychmygol rhyfedd yn yr ysgol. Ysbrydolwyd y digwyddiad dychmygol gan bethau roedden nhw wedi sylwi arnyn nhw yn ystod y gweithdai y gallai pobl eraill eu hystyried yn ‘ymddygiad gwael’ ond sydd, yn ein barn ni, yn dangos gwahanol fath o egni, synwyrusrwydd a chanfyddiadau.  

Mae artswork.org.uk yn ymgysylltu â phobl ifanc o bob cefndir. 

Nod www.artsconnect.co.uk yng nghanolbarth Lloegr yw cynyddu mynediad at y celfyddydau a diwylliant i blant a phobl ifanc 0-25 oed

Pecyn adnoddau athrawon arddangosfa mygydau a chelf fyd-eang amgueddfa Brooklyn

Gwybodaeth bellach ac adnoddau rhad ac am ddim gan Blant a’r celfyddydau

Mae’r prosiect hwn yn Birmingham yn defnyddio cerddoriaeth i ymgysylltu â phobl ifanc mewn darpariaethau amgen

Y Sefydliad Ymddygiad Heriol

Enghreifftiau gwych o bŵer celf i ymgysylltu â phobl ifanc mewn amgylchiadau anodd

Mwy am ddiogelu cyd-destunol

Ysbrydoliaeth ar gyfer mygydau gan yr artist serameg Peggy Bjerkan

Cliciwch yma i roi cynnig ar Fygydau Emosiynau!

neu

Cliciwch yma i wneud eich Cwpwrdd Chwilfrydedd eich hun!

neu

Cliciwch yma ar gyfer Pŵer Paent Crisial!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

 

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!