twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

   

 

Mae rhai pobl ifanc yn cael trafferth enwi neu fynegi’r teimladau sydd ganddyn nhw am bwysau rhywedd o fewn y gymdeithas i edrych neu symud mewn ffordd arbennig. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn elwa o fannau diogel i fynegi teimladau anodd (e.e. dicter, bod yn ddi-rym, rhwystredigaeth) yn eu diwylliannau cyfoedion eu hunain a’u perthnasoedd ehangach. Mae’r rhain yn cynnwys teimladau am faterion byd go iawn nad oes ganddyn nhw fawr ddim rheolaeth drostyn nhw, fel anghyfiawnder cymdeithasol, tlodi, gwahaniaethu. 

Mae’r astudiaeth achos hon yn dod o ysgol gynradd dinas fewnol yn Llundain. Mae tua 1000 o ddisgyblion yn yr ysgol sydd bron i gyd yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, ac mae Saesneg yn iaith ychwanegol i’r rhan fwyaf ohonyn nhw. Mae’r ysgol eisoes yn gwneud llawer o waith Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb, ond roedd eisiau gwrando a dysgu mwy am ddealltwriaeth plant o stereoteipiau rhywedd. Felly, fe wahoddon nhw Nicole Rodden, o Same Difference, i gynllunio a chyflwyno rhai gweithgareddau gyda disgyblion blwyddyn 5 i archwilio hyn.

Defnyddir ‘Rhywedd’ yn yr adnodd hwn i gyfeirio at sut mae cyrff rhywiol yn cael eu byw (e.e. fel hunaniaeth, fel mynegiant, trwy ryngweithio cymdeithasol), eu cynrychioli (e.e. mewn iaith, yn y cyfryngau, mewn diwylliant poblogaidd) a’u rheoleiddio (e.e. gan normau cymdeithasol-ddiwylliannol, fel stereoteipiau ‘gwrywdod’ a ‘benyweidd-dra’, ac yn y gyfraith). 

Er bod y cysyniad o rywedd yn gallu cynnwys y gwahanol ffyrdd y mae cymdeithasau’n neilltuo  cromosomau neu rannau o’r corff i gategorïau rhyw, nid yw’n gyfystyr â  rhyw, ac nid yw’n cyfeirio at hunaniaeth rywedd neu fynegiant rhywedd yn unig.

Mae’n gysyniad sy’n caniatáu ar gyfer dadansoddi rhywedd fel egwyddor sy’n trefnu cymdeithas (e.e. sut mae rhywedd yn ffurfio ac yn cael ei ffurfio gan ffactorau economaidd, amgylcheddol, gwleidyddol, diwylliannol, cyfreithiol, hanesyddol, crefyddol ac ysbrydol). Fel cysyniad, mae hefyd yn galluogi archwilio sut mae gwahanol gymdeithasau yn mynd i’r afael â chroestoriad prosesau biolegol, cymdeithasol-ddiwylliannol a seicolegol. 

A wyddoch chi...?

Bod y syniad nad yw bechgyn yn crïo wedi newid ar hyd hanes.

Arferai fod yn gyffredin i fechgyn a dynion grïo. Nid oedd yn anghyffredin i ddynion grïo yn y beibl. Criodd Achilles yn yr Iliad. Criodd Oliver Cromwell yn gyhoeddus. Darllenwch fwy amdano yma.

 

A wyddoch chi...?

Bod y syniad bod pinc yn lliw merched yn un diweddar. Roedd cylchgronau Americanaidd yn cysylltu pinc â bechgyn mor ddiweddar â 1927.

Mae hyn yn enghraifft dda o stereoteipiau’n newid dros amser

Pryd dechreuodd merched wisgo pinc?

Mewn gweithgaredd ystafell ddosbarth lle y gofynnwyd i blant feddwl am stereoteipiau rhywedd, fe ddysgon ni fod stereoteipiau’n addasu ac yn newid dros amser. Meddyliodd rhai plant am syniadau traddodiadol, ond nid oedd plant eraill wedi meddwl amdanyn nhw. Gallai hyn awgrymu nad yw rhai o’r pethau hyn yn sefydlog, felly mae’n bwysig gweithio gyda dealltwriaeth y plant eu hunain o’r materion hyn. 

Dylen ni ddim tybio ein bod ni’n gwybod beth yw stereoteip oherwydd dydyn ni ddim, ond mae angen i ni ddarganfod mewn ffyrdd nad ydyn nhw’n eu hatgyfnerthu.

Dysgwch fwy am ryw a rhywedd 

Tystiolaeth ymchwil academaidd sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang 

Anne Fausto-Sterling

Raewyn Connell

The Work of Gender for Children, gan Rachel Thomson, Liam Berriman a Sara Bragg

Yn y dasg hon, gofynnwyd i blant feddwl am stereoteipiau rhywedd. 

Mae hyn yn ffordd o archwilio stereoteipiau gyda phlant, heb eu hatgyfnerthu.

 

Herio  stereoteipiau

  • Rhoddwyd nifer o ddatganiadau i ni feddwl amdanyn nhw.

  • Roedden ni’n sefyll os oedden ni’n credu eu bod nhw’n wir ac yn aros yn ein seddau os na. Roedden ni’n esbonio’r rhesymeg y tu ôl i’n penderfyniad os oedden ni’n teimlo’n gyfforddus i wneud hynny.

  • Roedd hyn wedi gwneud i ni symud o gwmpas a meddwl ar ein traed.

  • Fe wrandawon ni ar ein barn ein gilydd mewn ffordd barchus, ac yna cymryd tro i esbonio ein safbwyntiau.

  • Roedd hyn yn ffordd dda o baratoi ar gyfer y llinell drafod (gallwch weld sut i addasu hyn i’ch ysgol chi ar y dudalen nesaf).

  • Fe ddychmygon ni linell yn mynd trwy’r ystafell ddosbarth, gyda phob pen yn cynrychioli safbwyntiau cyferbyniol cryf a’r holl raddau sicrwydd wedi’u nodi rhyngddyn nhw.

Unwaith eto, fe fyfyrion ni ar sut oedden ni’n teimlo am stereoteipiau a sefyll yn y man oedd yn cynrychioli ein barn. Yna, fe gymeron ni dro i fynegi ein pwyntiau o blaid neu yn erbyn. Fe’n hanogwyd i symud ar hyd y llinell wrth i’n barn newid.

 

Edrychwch ar P4C - athroniaeth i blant i gael syniadau ar sut i gynnal dadleuon ac annog sgiliau meddwl yn feirniadol

Agored i’w drafod

Mae gan drafod hanes hir ac, ar ei ystyr ehangaf, mae’n ymwneud â chyfnewid syniadau ar bwnc penodol. Os ydyn ni’n dweud bod rhywbeth yn ‘agored i’w drafod’, mae hyn yn golygu nad yw wedi cael ei brofi ac mae angen ei drafod ymhellach.

Pan fyddwn ni’n dweud bod rhywbeth yn ‘ddadleuol’, rydyn ni’n cydnabod natur ansicr ac amlochrog y pwnc a bod syniadau’n agored i newid dros amser ac mewn gwahanol leoedd. Yn fyd-eang, mae llawer o seneddau’n gweithredu trwy drafod polisïau a syniadau.

Trafodaeth ffurfiol yw dadl, fel arfer gyda siaradwr neu ganolwr i oruchwylio’r dadleuon o blaid ac yn erbyn.

Darllenwch fwy am ddadlau ar BBC bitesize 

Mewn tasg lle’r oedden ni’n myfyrio ar sut rydyn ni i gyd yn cydymffurfio â stereoteipiau rhywedd ac yn wahanol iddyn nhw, gwnaed y datganiadau hyn:

 

Dysgwch fwy am bwysigrwydd herio stereoteipiau rhywedd o Achub y Plant ac Addysgu Plentyn

Dysgwch am bwysigrwydd dull trawstoriadol o fynd i’r afael â stereoteipiau rhywedd yma.

 Deg ffordd o herio stereoteipiau yn yr ystafell ddosbarth

Mae Gadewch i deganau fod yn deganau yn ymgyrch sy’n ymwneud â stereoteipio rhywedd gan wneuthurwyr teganau, y siopau sy’n gwerthu teganau ac ymgyrchoedd marchnata

Mae gan yr Undeb Addysg Cenedlaethol adnoddau gwych, fel Torri’r Patrwm, ac Mae Stereoteipiau Rhywedd yn eich Atal Rhag Gwneud Pethau. 

Mae adnoddau’r Senedd ar gynnal dadleuon ar gael yma.

Mwy o adnoddau dadlau

Erthygl yn y Guardian am fuddion hybu dadleuon yn yr ystafell ddosbarth

Mae gan Athroniaeth i Blant P4C lawer o syniadau ar sut i gynnal dadleuon ac annog sgiliau meddwl yn feirniadol

Nod ymgyrch Dyma Fi Llywodraeth Cymru yw targedu stereoteipiau niweidiol a grymuso pobl ifanc

Nod y gynghrair dad-stereoteipio yw herio stereoteipiau corfforaethol ac yn y cyfryngau

Rhowch gynnig ar adnoddau DIY AGENDA: Chwalu Rhywiaeth Fasnachol; Creu Rhubanau Enfys dros Gydraddoldeb Rhywedd; Parau Snap Rhywedd; Teganau i Bawb.

 

 

Cliciwch yma i roi cynnig ar y Llinell Drafod!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!