twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

Mae aelodau DIGON yn cyfarfod amser cinio bob dydd Iau. Weithiau dim ond i siarad a bod gyda’n gilydd mewn lle diogel, ond rydyn ni hefyd yn trefnu llawer o wahanol weithgareddau, o weithdai dan arweiniad cyfoedion ar homoffobia, heterorywiaeth a normau rhywedd i drefnu wythnosau Enfys LGBT+. Mae ein grŵp yn frwd iawn ynghylch pŵer drama, yn enwedig theatr gorfforol a rhyngweithiol, i gyfleu pynciau a phrofiadau sy’n anodd eu trafod.

Ystyr DIGON yn Saesneg yw ‘Enough’.

Mae DIGON yn grŵp a arweinir gan bobl ifanc yn yr ysgol sy’n gweithio yn erbyn bwlio homoffobig a thrawsffobig. GWRANDEWCH arnon ni yma. 

BETH MAE DIGON YN EI OLYGU I NI 

“Mae creu cymuned gynhwysol yn ganolog i deimlo’n ddiogel. Rydw i’n teimlo bod yr ysgol yn amgylchedd mwy diogel oherwydd gwaith DIGON”

“Mae DIGON wedi dod yn lle diogel a chysurus i arbrofi â’n syniadau a’u datblygu”

“Mae DIGON wedi ein helpu ni i ddysgu sut i reoli llawer o wahanol brosiectau sy’n lledaenu neges mor wych”

“Mae DIGON wedi gwneud i mi sylweddoli bod y ffaith fy mod i wedi dod allan yn amherthnasol. Nid yw fy rhywioldeb yn rheoli fy mywyd, ac nid yw  fy mywyd yn rheoli fy rhywioldeb”

“Rydw i wedi dwlu siarad â disgyblion ysgol gynradd, yn enwedig oherwydd pa mor agored ydyn nhw i’n syniadau a beth rydyn ni eisiau ei gyflawni yn ein hysgol trwy’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn ein grŵp”

GWEITHGAREDDAU DIGON

Wedi creu sgript, “Dim ond ffrindiau da”, wedi’i seilio ar ddyfyniadau plant o’r gwaith ymchwil, “Bechgyn a Merched yn Codi Llais”.

Wedi derbyn gwahoddiadau i gyflwyno mewn cynadleddau’r llywodraeth a chynadleddau ymarferwyr ar berthnasoedd iach, bwlio homoffobig ac ar sail rhywedd, a digwyddiadau LGBT+ eraill.

Wedi trefnu Wythnosau Enfys yn ystod mis hanes LGBT.

Wedi cyflwyno gweithdai i athrawon a myfyrwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfeillgarwch; diwylliannau ysgol cynhwysol; normau rhywedd ac iaith homoffobig.

Wedi creu canllaw ar sut i fynd i’r afael â stereoteipiau hunaniaethau LGBT+ yn y cyfryngau.

Wedi creu theatr gorfforol a rhyngweithiol  yn erbyn bwlio homoffobig.

Wedi cyfieithu llyfr Olly Pike, “Prince Henry” i’r Gymraeg - rhamant ledrithiol ydyw sy’n cyfleu negeseuon cadarnhaol o gariad a chydraddoldeb. 

 

FFRINDIAU? 

drama am bwysau rhywedd perthnasoedd ifanc

Cawson ni gyfle i ddarllen hanesion plant am bwysau normau rhywedd a sut maen nhw’n ffurfio ac yn rheoli cyfeillgarwch rhwng bechgyn a merched a pherthnasoedd sboner / wejen ifanc yn y gwaith ymchwil ‘Bechgyn a Merched yn Codi Llais’.

Roedden ni eisiau cyfleu’r canfyddiadau hyn i gynulleidfa ehangach, felly fe greon ni’r ddrama, “Ffrindiau?”. Ysgrifennodd un ohonon ni’r sgript ac fe helpodd ein hathro drama ni i roi bywyd i’r sgript mewn perfformiad llwyfan. Mae pob llinell yn y ddrama yn ddyfyniad uniongyrchol gan un o’r plant yn y gwaith ymchwil. Mae hyn yn ei gwneud yn bwerus iawn pan fyddwn ni’n dweud wrth y gynulleidfa bod y ddrama wedi’i seilio ar fywydau plant go iawn (10, 11 a 12 oed).

Mae’r ddrama’n ymdrin â mater rhywedd a bwlio rhywiol ac yn ei gymhlethu. Prif rediad y stori yw herio tybiaethau cymdeithasol bod pawb yn heterorywiol neu y bydd pawb yn heterorywiol.

Rydyn ni’n dangos faint o blant sy’n cael eu pryfocio neu eu gwthio gyda’i gilydd i baru fel sboner a wejen dim ond oherwydd eu bod nhw’n cymdeithasu â’i gilydd neu’n rhannu’r un diddordebau. Rydyn ni wedi perfformio’r ddrama mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac mewn cynadleddau a digwyddiadau i athrawon a llunwyr polisi. 

“Fe greon ni ddarn o theatr gorfforol i herio cellwair rhywiaethol a homoffobig. Defnyddiwyd cadeiriau’n ymarferol (i eistedd arnyn nhw) ac yn symbolaidd (i amddiffyn ac ymosod).”

 

Mae’r Comisiynydd Plant yn cefnogi cynhadledd ieuenctid Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol* gyntaf Cymru

Sut i weithredu yn erbyn stereoteipiau negyddol cymunedau LGBT+ yn y cyfryngau 

Mae Stonewall Ifanc yn cefnogi’r holl bobl ifanc hoyw, lesbiaidd, ddeurywiol a thrawsrywiol, a’r rhai sy’n cwestiynu eu rhywedd. Maen nhw’n cynnal digwyddiadau balchder ieuenctid a chystadlaethau ysgrifenwyr ifanc. Maen nhw hefyd yn cynnal rhaglenni arweinwyr ifanc a gwirfoddoli.

26 o lyfrau oedolion ifanc LGBT sy’n herio homoffobia ac yn cefnogi amrywiaeth rywiol. 

Bob blwyddyn, mae Caerdydd yn cynnal Gŵyl Ffilm Fer LGBT Ryngwladol, sef Gŵyl Gwobr Iris. Mae Addysg Iris yn brosiect sy’n caniatáu i dîm Iris weithio gyda disgyblion ledled Cymru i fynd i’r afael â bwlio homoffobig trwy greu, datblygu a chynhyrchu eu ffilm fer eu hunain. 

 

 

Cliciwch yma i roi cynnig ar y DIY Drama 30 munud!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!