twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

Paratoi

Darllenwch yr astudiaeth achos PAWB OHONON NI i gael syniadau a dolenni i adnoddau ar hunaniaeth rhywedd, mynegiant rhywedd a hawliau rhywedd. Mae’r gwahaniaeth rhwng cydraddoldeb a thegwch rhywedd i’w weld yn BINGO GWYLIO RHYWEDD. 

Gweler yr adran ‘Deall Rhywedd’ yng Nghanllawiau Addysg Rywioldeb Gynhwysfawr 2018 UNESCO ar gyfer amcanion dysgu priodol o ran datblygiad a’r berthynas rhwng normau rhywedd, anghydraddoldeb rhywedd a thrais rhywiol ac ar sail rhywedd. 

Darllenwch a gwyliwch ymgyrch #dymafi Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â chydnabod sut gall normau rhywedd ac anghydraddoldeb rhywedd effeithio ar ein bywydau.

Rhannwch Nod Datblygu Cynaliadwy 5 y Cenhedloedd Unedig sy’n hybu cydraddoldeb rhywedd.  

1: #dymafi 

Dangoswch y pedwar llun o’r ymgyrch #dymafi i’r dosbarth, i’w sbarduno i drafod themâu diogelwch, tegwch, cydraddoldeb a thegwch. Er enghraifft, sut gall normau cymdeithasol ynghylch rhywedd gael effaith yn aml ar y canlynol: sut rydyn ni’n teimlo amdanon ni’n hunain a’n cyrff; beth gallwn ni ei wneud â’n cyrff (e.e. chwaraeon); gyda phwy gallwn ni ffurfio perthynas (e.e. ffrindiau); pa mor ddiogel rydyn ni’n teimlo; pa swyddi gallen ni ddymuno eu gwneud; disgwyliadau pobl eraill amdanon ni, ac ati. Gwahoddwch nhw i drafod enghreifftiau o bob un mewn grwpiau bach, a’u rhannu gyda’r grŵp ehangach. 

2.: #dymani

Cymerwch un o’r enghreifftiau a gwahodd y plant i feddwl am sut mae sylwi ar gydraddoldeb rhywedd a’i hybu yn fater mae angen i bawb ohonon ni ei gefnogi. Cyflwynwch rôl ‘rhubanau ymgyrchu’ a’u hanes. Dywedwch fod rhubanau ymwybyddiaeth yn symbolau sy’n uno pobl yn eu cefnogaeth i achos. Mae gwahanol liwiau a phatrymau yn gysylltiedig â gwahanol faterion (rhestrwch ambell un a gofynnwch i’r plant eu rhannu). Esboniwch fod ein gweithgaredd yn defnyddio llawer o wahanol liwiau i amlygu amrywiaeth mynegiant rhywedd a sut mae cymdeithasau, cyfreithiau, diwylliant poblogaidd ac ati i gyd yn cyfrannu at wneud i gydraddoldeb rhywedd gyfri.  

3: Rhuban Enfys  

Yn unigol neu mewn grwpiau, gwahoddwch y plant i feddwl am adeg gadarnhaol pan oedd rhywun neu rywbeth wedi helpu i ysgafnhau’r pwysau ar bobl sy’n gorfod cydymffurfio â normau rhywedd neu wedi helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywedd (e.e. polisi gwisg ysgol cynhwysol o ran rhywedd, sylw cefnogol gan ffrind i chwarae gyda thegan nad yw’n cydymffurfio â stereoteip; sioe neu hysbyseb ar y teledu, model rôl). Dewiswch liw ar gyfer y rhuban ac enwch, tynnwch lun neu ysgrifennwch neges i’w rhannu gydag eraill. 

4: Defnyddio Ffyn i Gefnogi Cydraddoldeb Rhywedd 

Gan ddefnyddio’r ffyn, gofynnwch i’r plant glymu neu lynu eu rhubanau, gan adael bwlch rhyngddynt. Gorchuddiwch ben y ffyn â glud, a’u rhoi yn y llathr*. Nesaf, gofynnwch iddyn nhw gyfnewid eu ffon rubanau â’r grŵp nesaf atyn nhw. Daliwch ati i gyfnewid nes bod yr holl blant wedi cael cyfle i ddarllen a siarad am y negeseuon ar bob ffon. Dewch o hyd i le eang (neuadd yr ysgol neu le chwarae) a gwahoddwch nhw i godi eu lleisiau mor uchel ag y gallan nhw, gan chwifio’u rhubanau ar ffyn, a gweiddi: “rydyn ni’n defnyddio ffyn i gefnogi cydraddoldeb rhywedd” NEU “rydyn ni’n gweithredu dros gydraddoldeb rhywedd”, neu’n well fyth, gallan nhw feddwl am eu slogan eu hunain.

5:  Fflagio pwysigrwydd Cydraddoldeb Rhywedd i #bawbohononni 

Dewiswch fannau gwahanol o amgylch yr ysgol i roi’r ffyn (e.e. ger y dderbynfa; yn y lle chwarae neu’r ardal y tu allan; ar waliau’r coridorau ac ati) i gynyddu ymwybyddiaeth o’ch baneri rhubanau enfys dros gydraddoldeb rhywedd. Os oes modd, gadewch hambwrdd gyda darnau bach ychwanegol o ruban, fel bod pawb yn gallu cefnogi eich achos.

 

Gweithgaredd estyn

Galluogi cydraddoldeb rhywedd i hedfan! 

Gwahoddwch bob grŵp i wneud barcut syml(gweler yma). Ysgrifennwch y rheolau y mae angen eu newid er diogelwch a thegwch ynghylch rhywedd Clymwch negeseuon cadarnhaol ar y rhubanau i wneud cynffon y barcut. Dewch o hyd i fan priodol y tu allan, a gadewch i’ch barcut hedfan ar yr awel! 

Lluniwch stori ddigidol fer o’r broses, a gwahoddwch blant eraill yn yr ysgol, a rhieni a llywodraethwyr i ddarllen y rhubanau a rhoi’r gair ar led ar draws yr ysgol ac yn y gymuned. 

Gall rhubanau codi ymwybyddiaeth ddod â phobl ynghyd i gefnogi achos a thynnu sylw ato. 

 

*Mae unrhyw un sydd erioed wedi defnyddio llathr yn gwybod ei fod yn mynd i bobman. Felly pam llathr? Mae gallu llathr i barhau yn hir ar ôl i weithgaredd ddigwydd yn ei wneud yn rymus yn y cyswllt yma! Bob tro y gwelwch chi unrhyw lathr, bydd yn eich atgofio o sut buoch chi’n greadigol wrth wneud i Gydraddoldeb Rhywedd gyfri. 

 

 

 

 

 

 

 

  Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaeth achos #BETHOSMAIDYMAFI?

Cyn i chi ddechrau, darllenwch yr adran Diogelwch a Chefnogaeth i gael syniadau ynghylch sut i greu amgylchedd dysgu diogel, cadarnhaol a chynhwysol.

Lawrlwythwch y gweithgarwch DIY hwn yma:

 

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!