Gan ddefnyddio lluniau, graffeg a geiriau, gall byrddau hwyliau helpu i ddal a chynrychioli teimladau a syniadau.
Dyma sut mae gwneud hyn:
1: Cymerwch ddarn mawr gwag o bapur, gorau po fwyaf.
2: Meddyliwch am bwnc a’i nodi ar frig y dudalen.
3: Defnyddiwch gylchgronau a/neu bapurau newyddion neu dewch o hyd i ddelweddau ar-lein - unrhyw le y gallwch ddod o hyd i gymysgedd o wahanol destun a lluniau.
4: Dewiswch eiriau a dyfyniadau a delweddau sy’n helpu i fynegi emosiynau pobl. O’u defnyddio fel hyn, mae delweddau’n helpu i fynegi teimladau ac emosiynau.