1: Dewiswch ran o’r cwricwlwm ffiseg sydd â chysyniadau sy’n denu eich sylw. Os nad ydych chi’n siŵr, defnyddiwch y rhestr yma ar ‘rymoedd’ a ‘symudiad’:
PWYSEDD – DISGYRCHIANT
ATMOSFFÊR – FFRITHIANT
ELASTIGRWYDD –CYFLYMDRA
STOPIO A MEDDWL – PELLTER
CYFLYMIAD – ARAFIAD
CYFLYMDER – MAS
LLUSGO –GRYM
2: Dewiswch 10 cysyniad a darganfod beth yw eu hystyr.
3: Siaradwch eich cysyniadau i mewn i’r ap glitsh.
4: Ydy’r cysyniadau a’r delweddau glitsh yn eich helpu i fynegi eich teimladau am gyfeillgarwch a pherthnasoedd? Nodwch rai o’r teimladau hyn ar ddarn mawr o bapur.
5: Edrychwch ar y pethau rydych chi wedi’u hysgrifennu. Torrwch nhw’n eiriau neu’n ymadroddion unigol. Symudwch nhw o gwmpas, ychwanegwch atyn nhw. Yn y diwedd, fe allai fod gennych chi gyfres o eiriau unigol ar thema, un ymadrodd craidd, neu dudalennau o rapiau a rhigymau.
6: Siaradwch eich cerdd/cerddi i mewn i’r ap glitsh. Arbrofwch â goslef, ailadrodd a rhythm. Gallwch arafu geiriau, dweud pethau drosodd a throsodd, sibrwd neu weiddi’n uchel. Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cyffwrdd â’r sgrîn?
7: Mae apiau glitsh yn caniatáu i chi recordio eich rhyngweithio ar ffurf delweddau llonydd (llun) neu symudol (fideo). Os byddwch yn hoffi’r hyn rydych chi’n ei weld a’i glywed, beth am gofnodi eich darn terfynol trwy greu stori ddigidol eich Taith Perthnasoedd wedi’i Glitsho?
8: Ar ôl gorffen, a fyddwch chi’n ei rannu, ei ddileu, neu’n glitsho eto?