twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

PARATOADAU

Trefnwch eich dosbarth neu grŵp yn grwpiau bach (dim mwy na 4 ym mhob grŵp).

 


Activity

1: Darllenwch y dyfyniadau’n dawel.

2: Trafodwch y dyfyniadau rydych chi’n teimlo gryfaf amdanyn nhw. Dylai pob aelod o’r grŵp amlygu un dyfyniad yr un ac yna dewis dyfyniad i’w dorri allan gan ddefnyddio’r siswrn.

3: Cymerwch dro i ddarllen y dyfyniadau rydych chi wedi’u dewis.

4: Rhowch y dyfyniadau ar ddarn o bapur A3 ar wahân gan adael bylchau rhyngddyn nhw. Symudwch y dyfyniadau o gwmpas mewn ffyrdd a allai eich helpu i greu rhediad stori.

5: Meddyliwch am rediad stori sy’n gallu cysylltu’r dyfyniadau â’i gilydd. Ysgrifennwch eich sgript a gwnewch yn siŵr fod pawb yn gallu cael tro i ddarllen.

6: Datblygwch y darlleniad yn berfformiad byr.

7: Arbrofwch gyda thempo, tôn ac uchder, a meddyliwch am ystumiau, mynegiant a symudiad.

8: Actiwch eich sgript i’ch gilydd os ydych chi eisiau. Rhowch deitl iddi os ydych chi eisiau.

Dyfyniadau Plant (10-11 oed)

Yn fy ysgol gynradd i roedd rhaid i chi  

fynd allan gyda rhywun. Dyna oedd y rheol!

Maen nhw’n galw’r merched sy’n mynd allan gyda bechgyn yn ‘drampiaid’ a’r merched nad ydyn nhw eisiau cofleidio a chusanu yn ‘oerllyd’.

Maen nhw’n gofyn i rywun ofyn i’r un ferch fynd allan dro ar ôl tro. Maen nhw’n eich pasio chi o gwmpas, fwy neu lai.

Dydw i ddim yn ffysi am gael wejen mewn gwirionedd. Dydw i ddim yn berson merched... Rydw i’n dwlu ar geffylau.

Yn yr ysgol gynradd, roeddwn i’n treulio amser gyda merch. Fe ddyfeision ni gelwydd ein bod ni’n gefndryd, a pharhaodd hynny am flwyddyn cyn i ni ddweud wrth rywun. Ar ei phen-blwydd, byddwn i’n rhoi cerdyn Pen-blwydd Hapus Cyfnither iddi.

Mae sboner yn hawlio amser ychwanegol dydw i ddim eisiau ei roi

Mae’r (staff cinio) yn dweud “po fwyaf mae’r bechgyn yn eich taro chi, y mwyaf maen nhw’n eich caru chi”

I gael mwy o ddyfyniadau, ewch i Bechgyn a Merched yn Codi Llais.

 

BETH NESAF? 

Beth am weithio gyda’r hyn rydych chi wedi’i greu i wneud eich drama eich hun? Neu gynnig y sgriptiau i adran ddrama eich ysgol neu grŵp drama lleol er mwyn iddyn nhw weithio arnyn nhw a’u datblygu’n ddarn o theatr gorfforol neu fforwm ryngweithiol?

    Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaeth achos Ffrindiau?

Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.

Lawrlwythwch y gweithgarwch DIY hwn yma:

 

Download the entire AGENDA resource here!