FFRINDIAU?
drama am bwysau rhywedd perthnasoedd ifanc
Cawson ni gyfle i ddarllen hanesion plant am bwysau normau rhywedd a sut maen nhw’n ffurfio ac yn rheoli cyfeillgarwch rhwng bechgyn a merched a pherthnasoedd sboner / wejen ifanc yn y gwaith ymchwil ‘Bechgyn a Merched yn Codi Llais’.
Roedden ni eisiau cyfleu’r canfyddiadau hyn i gynulleidfa ehangach, felly fe greon ni’r ddrama, “Ffrindiau?”. Ysgrifennodd un ohonon ni’r sgript ac fe helpodd ein hathro drama ni i roi bywyd i’r sgript mewn perfformiad llwyfan. Mae pob llinell yn y ddrama yn ddyfyniad uniongyrchol gan un o’r plant yn y gwaith ymchwil. Mae hyn yn ei gwneud yn bwerus iawn pan fyddwn ni’n dweud wrth y gynulleidfa bod y ddrama wedi’i seilio ar fywydau plant go iawn (10, 11 a 12 oed).
Mae’r ddrama’n ymdrin â mater rhywedd a bwlio rhywiol ac yn ei gymhlethu. Prif rediad y stori yw herio tybiaethau cymdeithasol bod pawb yn heterorywiol neu y bydd pawb yn heterorywiol.
Rydyn ni’n dangos faint o blant sy’n cael eu pryfocio neu eu gwthio gyda’i gilydd i baru fel sboner a wejen dim ond oherwydd eu bod nhw’n cymdeithasu â’i gilydd neu’n rhannu’r un diddordebau. Rydyn ni wedi perfformio’r ddrama mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac mewn cynadleddau a digwyddiadau i athrawon a llunwyr polisi.
“Fe greon ni ddarn o theatr gorfforol i herio cellwair rhywiaethol a homoffobig. Defnyddiwyd cadeiriau’n ymarferol (i eistedd arnyn nhw) ac yn symbolaidd (i amddiffyn ac ymosod).”