twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

Pontio'r bwlch rhwng profiad bywyd a darpariaeth ACRh

Mae ymchwil yn awgrymu bod bwlch cynyddol rhwng yr hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei feddwl, ei deimlo a'i wneud, o ran rhywedd, rhywioldeb a pherthnasoedd a'r hyn y mae oedolion yn ei dybio ynghylch yr hyn mae plant a phobl ifanc yn ei feddwl, ei deimlo a'i wneud.

Mae bwlch cynyddol hefyd rhwng yr hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei ddysgu ac am ei ddysgu am rywedd, rhywioldeb a pherthnasoedd, a'r ACRh a gyflwynir iddynt yn yr ysgol.

Mae'r bylchau hyn gwneud cyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy’n berthnasol i, ac yn mynnu sylw, plant a phobl ifanc, yn anodd.

Mae'r adnodd 'cardiau crush' wedi'i gynllunio i bontio'r bylchau hyn a galluogi addysgwyr i gysylltu ac ymgysylltu'n feirniadol â'r ffordd y mae plant a phobl ifanc yn dysgu am amrywiaeth o faterion ACRh, o’r ysgol i'r sgrîn.

Ceir rhagor o wybodaeth am y cardiau a sut y gellir eu haddasu mewn lleoliadau addysgol ar y cerdyn cyntaf.

 

Beth yw Cardiau Crush?

  • Mae delwedd ar un ochr i’r cardiau ac arsylwadau gan ymchwilwyr ar yr ochr arall. 

  • Weithiau mae’r rhain ar ffurf cyfres o ddyfyniadau, ac weithiau ar ffurf myfyrdodau gan yr ymchwilydd neu'r tîm ymchwil. 

  • Ar waelod y cerdyn mae dolen at y prosiect ymchwil. 

  • Darllenwch ragor amdanynt ar dudalen 18-19 yr adnodd CRUSH.

Mae Tystiolaeth Ymchwil o Bwys

 

Mae defnyddio tystiolaeth ymchwil yn helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r hyn yw profiadau plant a phobl ifanc o berthnasoedd, rhywedd a rhywioldeb, heb orfod dibynnu ar stereoteipiau yn y cyfryngau, ein profiadau ein hunain, na phrofiadau ein ffrindiau a’n teulu.

 

Ystyriwch y cardiau crush fel cardiau galw, sy’n ymwneud â data...
 cardiau sy’n galw arnoch i ail-ddychmygu'r hyn y gall ACRh fod!

Cefndir

 

Cynlluniwyd y cardiau CRUSH yn wreiddiol gan yr Athro EJ Renold (Academaidd) ac Adam Chard (Artist) ar gyfer rhaglen ddysgu broffesiynol bwrpasol sy'n paratoi athrawon mewn swyddi ar gyfer Error! Hyperlink reference not valid. statudol Cymru (www.agendaarlein.co.uk/crush). Roedd ystod o astudiaethau ymchwil ansoddol yn sail i’r gyfres wreiddiol o gardiau crush, er mwyn galluogi addysgwyr i nodi ac archwilio'r elfennau a'r grymoedd amrywiol y mae'n rhaid i blant a phobl ifanc eu llywio'n aml yn eu bywydau o ddydd i ddydd, ar draws ystod o faterion ACRh.

Mae'r Cardiau Crush yn parhau i esblygu. Bydd unrhyw ychwanegiadau wedi'u lleoli yma, yn adran adnoddau gwefan www.agendaarlein.co.uk. Gallwch eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim.

 

Darllenwch yr adran Diogelwch a Chymorth hon cyn addasu'r adnodd Cardiau Crush.  

 

Lawrlwythwch y Cardiau Crush yma!

 

Cardiau Crush

 

Mae’r set hon o gardiau wedi’i dylunio i helpu addysgwyr i ymgysylltu a meddwl yn feirniadol am sut mae plant a phobl ifanc (3-18 oed) yn profi rhyw a rhywioldeb yn eu bywydau pob dydd.

 

Lawrlwytho Cardiau Crush PDF

Lawrlwytho Cardiau Crush ffeil i’w hargraffu

Lawrlwytho Cardiau Crush delwedd-yn-unig PDF

Lawrlwytho Cardiau Crush delwedd-yn-unig, ffeil i’w hargraffu 

Cardiau Crush Wellcome

 

Wedi’i hariannu gan Yr Ymddiriedolaeth Wellcome, mae'r set hon o gardiau yn canolbwyntio ar 'sut' mae pobl ifanc (13-17 oed) yn dysgu am ACRh mewn cyd-destunau allweddol. Mae'r cyd-destunau hyn yr un fath â’r cyd-destunau y mae Natsal yn eu defnyddio i ofyn i bobl beth yw eu prif ffynhonnell wybodaeth ynghylch rhyw wrth dyfu i fyny.

 

Lawrlwytho Cardiau Crush Wellcome PDF

Lawrlwytho Cardiau Crush Wellcome, ffeil i’w hargraffu

Lawrlwytho Cardiau Crush delwedd-yn-unig PDF

Lawrlwytho Cardiau Crush delwedd-yn-unig, ffeil i’w hargraffu

Cliciwch yma i lawrlwytho’r pdf rhyngweithiol am CRUSH neu glicio yma i’w ddarllen ar-lein