GRYMOEDD A’N SYMUDODD
Fe wnaethon ni argraffu’r cysyniadau ffiseg ar gyfer ‘grymoedd’. Roedden nhw’n ein helpu i feddwl am sut mae ein perthynas a’n rhyngweithio ag eraill yn gwneud i ni deimlo’n ddiogel ac yn anniogel, yn hapus ac yn drist, wedi’n rheoli ac yn rhydd. Fe feddylion ni am y grymoedd sy’n gwneud rhai teimladau neu symudiadau’n bosibl neu’n amhosibl:
Elastigedd: “pan fydd perthnasoedd yn dod yn fusnes i bawb”
Disgyrchiant: “poeni am rywbeth”, “teimladau sy’n eich llethu”
Pellter stopio: “gwybod pryd i stopio”, “peidio â mynd yn rhy bell”
Pwysedd atmosfferig: “pan fydd pwysau arnoch chi i wneud rhywbeth”, “pan fyddwch chi’n teimlo eich bod yn cael eich barnu”
Cyflymder: “mynd yn rhy gyflym mewn perthynas”
Fe ysgrifennon ni’r holl bethau roedden ni eisiau cynyddu ymwybyddiaeth ohonyn nhw. Roedd y cysyniadau gwyddoniaeth yn ddefnyddiol iawn.