MYND Y TU HWNT I’R DEUOL
Yn ein hysgol ni, mae rhai ohonon ni’n mynegi ein rhywedd mewn ffyrdd sy’n herio disgwyliadau cymdeithas o ran beth allai bachgen neu ferch fod neu wneud. Mae rhai ohonon ni eisiau newid ein rhagenwau rhywedd (e.e. o fe i hi). Nid yw rhai ohonon ni eisiau cael ein hadnabod yn ôl rhywedd o gwbl (e.e. dirywedd). Mae rhai ohonon ni wedi diflasu ar sut mae normau rhywedd yn mynd o dan y croen ac yn ein hatal ni rhag gwneud pethau.
Ond mae’n anodd pan fydd rheolau a diwylliannau ysgol yn atgyfnerthu normau rhywedd bob dydd, trwy ein rhannu’n ‘fechgyn’ a ‘merched’ ar gyfer cwisiau dosbarth, rhoi bechgyn i eistedd nesaf at ferched ar gyfer profion, neu fod â pholisi gwisg swyddogol a thoiledau sy’n rhannu yn ôl rhywedd. Roedden ni eisiau newid hyn trwy ddangos pa mor amrywiol yw rhywedd eisoes, fel sydd wedi bod yn wir erioed, a pha mor niweidiol y gall fod i bob person ifanc a’r staff os cawn ein rhoi mewn blychau nad ydyn nhw’n addas i ni.
Rotifer: bacteria sy’n byw mewn byd benywaidd yn unig ac sy’n atgenhedlu ar eu pen eu hunain
“Roedden ni eisiau rhoi gwybod i bobl nad dim ond ‘gwryw’ a ‘benyw’ yw rhyw ym myd anifeiliaid AC ym myd pobl. Mae llawer o wahanol ryweddau hefyd, a does dim byd naturiol am rolau rhywedd traddodiadol”