1: Dewiswch amrywiaeth o stribedi o liain lliw. Byddai darnau o ffabrig, hen ddillad neu ddillad gwely yn gweithio
2: Ysgrifennwch sut hoffech chi weld syniadau ac arferion ffeministaidd yn datblygu yn eich ysgolion. Treuliwch amser yn darllen eich negeseuon eich gilydd.
3: Yna, gan weithio mewn parau neu grwpiau bach, plethwch eich darnau ffabrig ynghyd.
4: Pan fyddwch chi wedi creu eich pleth, unwch hi â’r rhai eraill i greu pleth fawr. Fe allech chi ddymuno sicrhau bod negeseuon allweddol yn weladwy i eraill eu darllen.
5: Dewch o hyd i rywle yn eich ysgol i arddangos eich rhubanau a fydd yn annog pobl i drafod y materion rydych chi eisiau eu newid. Gallech chi eu lapio nhw o amgylch coeden, eu hongian nhw o ffens - neu hyd yn oed eu gwisgo nhw!
6: Gallech chi adael rhai stribedi ffabrig gwag er mwyn i bobl eraill ymuno â’ch ymgyrch #plethudrosgynnydd trwy ychwanegu eu negeseuon cefnogaeth eu hunain.
Gweithgaredd estyn
1: Tynnwch lun o’r neges cyn i chi blethu, a chrëwch stori luniau o’ch gweithgaredd #plethudrosgynnydd
2: Ceisiwch greu cerdd o rai o’r negeseuon.
3: Dewiswch 3 neges y gallwch ddechrau arnyn nhw yn syth, y mis nesaf a’r flwyddyn nesaf. Defnyddiwch yr adnodd agenda ar-lein i roi eich cynlluniau ar waith.
Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer y plant a’r boblifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.