twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

Paratoi

A: Cyn i chi ddechrau, darllenwch yr adran Diogelwch a Chefnogaeth i gael syniadau ynghylch sut i greu amgylchedd diogel, cadarnhaol a chynhwysol. 

B: Darllenwch astudiaeth achos Pob CORFF yn Bwysig i gael syniadau a dolenni i adnoddau ar rywedd, cyrff a delwedd y corff. 

Ystyriwch sut bydd disgwyliadau rhywedd ynghylch sut mae pobl yn edrych, yn teimlo ac yn symud bob amser yn dod o dan ddylanwad gwahaniaethau cymdeithasol, diwylliannol a chorfforol eraill.

C: Rhowch lond dyrnaid o stribedi gwifren grefft ym mhob blwch a’i selio’n ysgafn â thâp gludiog.

WYRD (enw) - yn Hen Saesneg roedd ‘wyrd’ 

yn dod o’r ferf ‘weorpan’, a oedd yn golygu “digwydd, dod i fodolaeth”. Yna datblygodd y term i’r ansoddair Saesneg cyfoes ‘weird’.

Gweithgaredd

1: Gan weithio mewn grwpiau bach (e.e. 4-6), rhowch flwch carbord a set o bennau ffelt i bob grŵp. 

2: Gofynnwch i’r grŵp addurno’r blwch â theimladau am bwysau cymdeithasol ar bobl o ran rhywedd (beth bynnag yw eu hoed) i edrych neu symud mewn ffordd arbennig mewn gwahanol rannau o’u bywydau (e.e. chwaraeon, ysgol, gwaith, yn y parc, ar-lein ac ati). 

3: Chwaraewch y trac sain. Gofynnwch i wirfoddolwr o bob grŵp godi eu blwch. Gofynnwch iddyn nhw symud rhwng y grwpiau. Fel cadeiriau cerddorol, pan fydd y gerddoriaeth yn peidio, bydd y gwirfoddolwyr yn rhoi eu blwch i’r grŵp nesaf (ond nid eu grŵp eu hunain). Anogwch drafodaeth ar y negeseuon mewn grwpiau bach ac fel dosbarth cyfan. 

4: Gofynnwch i wirfoddolwr gwahanol agor y blwch, ac i wirfoddolwr arall estyn i mewn a thynnu’r stribedi gwifrau allan. Bydd gwirfoddolwr terfynol yn dosbarthu’r gwifrau fel bod gan bob aelod o’r grŵp dair yr un. 

5: Rhowch enghraifft yn gyntaf, yna gwahoddwch y plant i greu strwythur corff o’r stribedi gwifrau. Mae fideos youtube ar sut i greu pobl wifrau ar gael yma. 

6: Gwahoddwch y plant i ddewis un o’r teimladau ar y blwch, ac yna ffurfio eu cyrff gwifrau i fynegi’r teimlad hwnnw. Gallech chi chwarae cerddoriaeth yn gyfeiliant i’r sesiwn hon. 

7: Gan droi at yr unigolyn nesaf atynt, profwch a all eu partner ‘ddyfalu’r teimlad’ sy’n cael ei fynegi gan y corff gwifrau. 

8: Ailadroddwch gyda theimladau gwahanol. Cymerwch eich tro i rannu a dyfalu teimladau. 

Gweithgareddau estyn: 

Rhowch gynnig ar weithgaredd ‘llinell y corff’ (gweler Pob CORFF yn Bwysig) i archwilio teimladau cadarnhaol a negyddol yn ymwneud â chyrff a delwedd y corff

Lluniwch gerflun corff (â chyrff gwifrau neu gyrff go iawn) o’r holl wahanol deimladau sy’n cael eu mynegi ar y blychau 

 Defnyddiwch y neges i sgriptio a pherfformio drama, gan ddefnyddio’r cyrff gwifrau fel pypedau! 

Gofynnwch i bob grŵp beth arall y gallai’r cyrff gwifrau fod yn ddefnyddiol i’w archwilio mewn sesiynau eraill sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles.   

   Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaeth achos Pob CORFF yn Bwysig!

Lawrlwythwch y gweithgarwch DIY hwn yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!