1: Gan weithio’n unigol neu mewn parau, ysgrifennwch yr holl bethau sy’n aflonyddu arnoch wrth feddwl am sut mae cymdeithas yn anghyfartal neu’n annheg o ran perthnasoedd, rhywedd a rhywioldeb.
2: Plygwch y darnau papur, a rhowch nhw yn y jar wydr.
3: Ar ôl gorffen, cymerwch bob sylw yn ei dro a meddyliwch am beth y mae angen iddo newid i droi’r hyn sy’n annheg yn deg, a sicrhau byd cyfartal a mwy cynhwysol.
4: Addurnwch y jar â’ch negeseuon ar gyfer newid.
Aflonyddu (berf): ysgwyd, siglo, dirgrynu
- achosi sioc (yn arbennigi’r corff)
- ysgwyd neu siglo rhywbeth
- cael effaith sy’n tarfu ar rywun neu rywbeth
Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.