1: Os ydych chi’n gweithio mewn grŵp mawr, rhannwch y dosbarth yn grwpiau bach.
2: Cynnwys rhywedd: Rhowch 2 gynhwysydd i bob grŵp. Addurnwch un cynhwysydd â’r llythyren A ac un â’r llythyren H.
3: Beth yw stereoteip rhywedd? Trafodwch beth yw stereoteip rhywedd a beth mae’n ei olygu i herio neu atgyfnerthu stereoteipiau rhywedd yn y byd teganau ac yn y byd ehangach (e.e. dillad, swyddi, hunaniaethau, cerddoriaeth, hysbysebion ac ati). I gael mwy o syniadau, adnoddau a chynlluniau gwers ar sut i wneud hyn, gweler Bingo Gwylio Rhywedd)
4: Gofynnwch i bob grŵp ddewis siop y maen nhw wedi ymweld â hi’n ddiweddar neu wedi’i gweld ar-lein. Bydd pob grŵp yn archwilio’r wefan a ddewiswyd ganddynt (os yw’n bosibl, ewch ar daith faes i’r siop).
5: Ditectifs stereoteipiau rhywedd: Gyda’ch gilydd, archwiliwch sut mae’r teganau’n cael eu marchnata a’u harddangos. A allwch chi adnabod pa gynhyrchion sydd ar gyfer ‘merched’ a ‘bechgyn’? Sut ydych chi'n gwybod? (e.e. lliwiau, ffont, delweddau). A oes unrhyw gynhyrchion sy’n herio stereoteipiau rhywedd?
6: Casglu’r Dystiolaeth: Gan ddefnyddio’r ddau gynhwysydd, rhowch fotwm yn y cynhwysydd A bob tro y sylwch ar stereoteip rhywedd yn cael ei ATGYFNERTHU, a rhowch fotwm yn y cynhwysydd H bob tro y sylwch ar stereoteip rhywedd yn cael ei herio. Tynnwch sgrin-lun o enghreifftiau ‘herio’ ac ‘atgyfnerthu’. Cyfrwch faint o fotymau a gasgloch chi ym mhob cynhwysydd. Arddangoswch eich canfyddiadau’n greadigol (e.e. trwy lynu’rbotymau ar y cynhwysydd, eu hongian nhw o ruban neu linyn)
7: Mae teganau i ni (i gyd): gwahoddwch bob grŵp i ysgrifennu llythyr neu neges e-bost at y manwerthwr yn mynegi naill ai pryder ynghylch atgyfnerthu stereoteipiau rhywedd NEU yn canmol ei ddulliau marchnata sy’n gynhwysol o ran rhywedd. Cynhwyswch ffotograffau. Ystyriwch gynnwys rhai botymau os ydych chi’n defnyddio papur ac amlenni.
Gweithgareddau estyn
Gellir archwilio’r gweithgaredd hwn trwy unrhyw agwedd ar gymdeithas a diwylliant (e.e. swyddi, cerddoriaeth, hobïau, hunaniaeth, hysbysebion teledu, safleoedd chwarae gemau ac ati). Gall plant hefyd greu eu hysbysebion eu hunain neu ysgrifennu cerdd neu gân i gyfleu eu canfyddiadau.
Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgareddhwn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.
Mae stereoteipiau'n deillio o agweddau, gwerthoedd, arferion a rhagfarnau sydd â gwreiddiau dwfn. Byddant yn amrywio ar draws diwylliannau, lleoedd ac amser.