twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

Defnyddiwch luniau, graffeg a geiriau o gyfryngau cymdeithasol i helpu i gyfleu a chynrychioli cynnwys sy’n dathlu perthnasoedd amrywiol ac yn herio anghydraddoldebau a gwahaniaethu (e.e. homoffobia, deuffobia, trawsffobia, camwahaniaethu ar sail gallu corfforol, normau rhywedd). 

1: Dewiswch fater yr hoffech chi gynyddu ymwybyddiaeth ohono a dysgwch fwy am y ffordd mae’n cael ei drafod ar gyfryngau cymdeithasol (e.e. Instagram, Tumblr, YouTube) 

2: Tynnwch sgrin-lun o gynnwys rydych chi’n uniaethu ag ef (e.e. memyn, postiad, delwedd) ac sy’n cyfleu neges rymus 

3: Dewiswch eiriau, dyfyniadau a delweddau sy’n helpu i fynegi teimladau ac emosiynau pobl am y pwnc rydych chi’n mynd i’r afael ag ef 

4: Casglwch eich sgrin-luniau ynghyd mewn bwrdd hwyliau cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio PowerPoint, Padlet neu raglen debyg. 

5: Pan fyddwch chi wedi gorffen, ewch i weld a oes rhywle yn eich ysgol lle gallwch chi arddangos eich bwrdd hwyliau. Beth am ei arddangos ar gyfer un o’r dyddiadau cynyddu ymwybyddiaeth neu ei ddefnyddio fel sail ar gyfer sgwrs yn y dosbarth, mewn gwasanaeth ysgol neu mewn cynhadledd?

      Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaeth achos Clwb Amrywiaeth Digidol!

Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.

Lawrlwythwch y gweithgarwch DIY hwn yma:

Download the entire AGENDA resource here!