Hawliau plant yw’r holl bethau y mae eu hangen ar blant a phobl ifanc i aros yn ddiogel, cael eu trin yn deg a chael lleisio’u barn mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Mae gan blant yr hawl i deimlo’n ddiogel mewn perthnasoedd ag eraill, a hawl i deimlo’n ddiogel gartref, ar-lein, yn yr ysgol, mewn mannau cyhoeddus ac yn y gweithle.
Mae gan blant yr hawl i fod y gorau y gallan nhw fod
Mae gan blant yr hawl i gael gwybodaeth, ac i bobl wrando ar yr hyn maen nhw’n credu y dylai ddigwydd mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a’u bywydau
Mae gan blant yr hawl i hunaniaeth (gan gynnwys eu hunaniaeth o ran rhywedd)
Mae gan blant yr hawl i fod yn rhydd rhag gwahaniaethu (gan gynnwys gwahaniaethu ar sail rhywedd) a deunydd yn y cyfryngau sy’n achosi niwed i bobl ifanc.
Mae gan blant yr hawl i ymlacio, chwarae a thyfu i fyny’n iach
Mae gan blant yr hawl i fod yn rhydd rhag camdriniaeth a chamfanteisio (gan gynnwys trais rhywiol a cham-drin domestig)
Os ydych chi eisiau gwybodmwy am hawliau plant, sut gallant gael mynediad at eu hawliau, neu os ydynt yn credu nad yw eu hawliau’ncael eu bodloni, gall y sefydliadau canlynol eich helpu:
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ryw, perthnasoedd a hawliau cyfreithiol pobl ifanc, ewch i www.thinkuknow.co.uk. Yma cewch atebion syml i gwestiynau fel: Ar ba oedran y gall pobl ifanc gael rhyw? Beth yw cydsyniad? Beth yw trais? Beth yw ymosodiad rhywiol? Beth yw delwedd anweddus? a mwy.
Os ydych chi eisiau cysylltu ag unrhyw un o’r gwleidyddion sy’n eichcynrychioli ar lefel leol, y Deyrnas Unedig neu’r Undeb Ewropeaidd,mae eu manylion ar gael yma.
RHANNU BETH RYDYCH CHI’N EI WNEUD
Efallai eich bod chi wedi sylwi mai ychydig iawn o wynebau plant a phobl ifanc sydd ar y wefan hon. Rydym ni wedi bod yn ofalus iawn i ddiogelu hunaniaeth ysgolion ac unigolion. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod AGENDA yn mynd i’r afael â materion sensitif ac mae ar gael yn gyhoeddus.
Mae eisiau newid pethau yn aml yn deillio o brofiad personol, a’r awydd i rannu’r profiadau hynny â chynulleidfa ehangach. Mae llawer o wahanol ffyrdd o gyfleu profiad, yn enwedig i’r rhai nad ydynt efallai’n teimlo’n ddigon hyderus neu ddiogel i wneud hynny. Mae hefyd rai rhesymau da dros gadw hunaniaeth plant a phobl ifanc yn breifat, o resymau cyfreithiol i hawl plentyn i breifatrwydd.
Defnyddiodd rhai o’r prosiectau yn yr adnodd hwn ddulliau creadigol i’w helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o bynciau sensitif heb i blant a phobl ifanc ddatgelu gormod amdanynt eu hunain. Canfu prosiectau eraill fod eu negeseuon yn llawer mwy grymus trwy ddefnyddio dulliau anghyffredin neu greadigol (e.e. Ail-greu’r rheolau).
Yn achos y rhan fwyaf o’r prosiectau, roedd cael hyd i ffyrdd o greu amgylchedd digon diogel i rannu’r pethau sy’n cyfri iddynt yn rhan bwysig iawn o’u taith.
Pam cadw hunaniaeth plant a phoblifanc yn breifat wrth rannu eu storïauar gyfryngau cymdeithasol (e.e. cyfrifTwitter yr ysgol)?
Gall cadw hunaniaeth plant a phobl ifanc yn breifat helpu i wneud y canlynol:
1: cyfleu profiadau personol heb ddatgelu gormod amdanynt eu hunain;
2: rhoi mwy o reolaeth i blant a phobl ifanc o ran pryd, ble a sut maen nhw eisiau datgelu eu hunaniaeth; ac yn achos y plant hynny sy’n gorfod cadw eu hunaniaeth yn breifat, nid ydynt yn amlwg absennol mewn ffotograffau grŵp;
3: amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cyswllt uniongyrchol gan drolwyr ar-lein neu sylw digroeso ar y cyfryngau gan bobl sydd â mwy o ddiddordeb mewn achosi trafferth na chefnogi eu syniadau.