twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

 

HAWLIAU Plant

Hawliau plant yw’r holl bethau y mae eu hangen ar blant a phobl ifanc i aros yn ddiogel, cael eu trin yn deg a chael lleisio’u barn mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. 

  • Mae gan blant yr hawl i deimlo’n ddiogel mewn perthnasoedd ag eraill, a hawl i deimlo’n ddiogel gartref, ar-lein, yn yr ysgol, mewn mannau cyhoeddus ac yn y gweithle. 

  • Mae gan blant yr hawl i fod y gorau y gallan nhw fod 

  • Mae gan blant yr hawl i gael gwybodaeth, ac i bobl wrando ar yr hyn maen nhw’n credu y dylai ddigwydd mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a’u bywydau 

  • Mae gan blant yr hawl i hunaniaeth (gan gynnwys eu hunaniaeth o ran rhywedd)

  • Mae gan blant yr hawl i fod yn rhydd rhag gwahaniaethu (gan gynnwys gwahaniaethu ar sail rhywedd) a deunydd yn y cyfryngau sy’n achosi niwed i bobl ifanc.

  • Mae gan blant yr hawl i ymlacio, chwarae a thyfu i fyny’n iach

  • Mae gan blant yr hawl i fod yn rhydd rhag camdriniaeth a chamfanteisio (gan gynnwys trais rhywiol a cham-drin domestig) 

 

Os ydych chi eisiau gwybod  mwy am hawliau plant, sut gallant gael mynediad at eu hawliau, neu os ydynt yn credu nad yw eu hawliau’n cael eu bodloni, gall y sefydliadau canlynol eich helpu:

- Comisiynydd Plant Lloegr, Cymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

POLISI a CHYFREITHIAU

Yng Nghymru... 

...mae polisïau a chanllawiau penodol a luniwyd i fynd i’r afael â bwlio rhywiaethol, rhywiol a thrawsffobig, ac i atal trais yn erbyn menywod a merched, trais rhywiol a cham-drin domestig mewn lleoliadau addysgol.

...mae polisïau a deddfau gan y llywodraeth sy’n ymdrin yn benodol ag unrhyw wahaniaethu sy’n achosi anghydraddoldeb (gan gynnwys anghydraddoldeb rhywedd), yn diogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc, ac yn hybu hawliau plant.

 

Yn Lloegr...

...mae polisïau a chanllawiau arbennig a luniwyd i fynd i’r afael â bwlio yn ogystal ag atal ac ymateb i drais rhywiol ac aflonyddu rhywiol yn yr ysgol.

...mae polisïau a deddfau gan y llywodraeth sy’n ymdrin yn benodol ag unrhyw wahaniaethu sy’n achosi anghydraddoldeb (gan gynnwys anghydraddoldeb rhywedd), yn diogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc, ac yn hybu hawliau plant.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ryw, perthnasoedd a hawliau cyfreithiol pobl ifanc, ewch i www.thinkuknow.co.uk. Yma cewch atebion syml i gwestiynau fel: Ar ba oedran y gall pobl ifanc gael rhyw? Beth yw cydsyniad? Beth yw trais? Beth yw ymosodiad rhywiol? Beth yw delwedd anweddus? a mwy. 

Os ydych chi eisiau cysylltu ag unrhyw un o’r gwleidyddion sy’n eich cynrychioli ar lefel leol, y Deyrnas Unedig neu’r Undeb Ewropeaidd, mae eu manylion ar gael yma.

 

RHANNU BETH RYDYCH CHI’N EI WNEUD 

Efallai eich bod chi wedi sylwi mai ychydig iawn o wynebau plant a phobl ifanc sydd ar y wefan hon. Rydym ni wedi bod yn ofalus iawn i ddiogelu hunaniaeth ysgolion ac unigolion. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod AGENDA yn mynd i’r afael â materion sensitif ac mae ar gael yn gyhoeddus.

Mae eisiau newid pethau yn aml yn deillio o brofiad personol, a’r awydd i rannu’r profiadau hynny â chynulleidfa ehangach. Mae llawer o wahanol ffyrdd o gyfleu profiad, yn enwedig i’r rhai nad ydynt efallai’n teimlo’n ddigon hyderus neu ddiogel i wneud hynny. Mae hefyd rai rhesymau da dros gadw hunaniaeth plant a phobl ifanc yn breifat, o resymau cyfreithiol i hawl plentyn i breifatrwydd. 

Defnyddiodd rhai o’r prosiectau yn yr adnodd hwn ddulliau creadigol i’w helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o bynciau sensitif heb i blant a phobl ifanc ddatgelu gormod amdanynt eu hunain. Canfu prosiectau eraill fod eu negeseuon yn llawer mwy grymus trwy ddefnyddio dulliau anghyffredin neu greadigol (e.e. Ail-greu’r rheolau).

Yn achos y rhan fwyaf o’r prosiectau, roedd cael hyd i ffyrdd o greu amgylchedd digon diogel i rannu’r pethau sy’n cyfri iddynt yn rhan bwysig iawn o’u taith. 

 

Pam cadw hunaniaeth plant a phobl ifanc yn breifat wrth rannu eu storïau ar gyfryngau cymdeithasol (e.e. cyfrif Twitter yr ysgol)?

Gall cadw hunaniaeth plant a phobl ifanc yn breifat helpu i wneud y canlynol: 

1: cyfleu profiadau personol heb ddatgelu gormod amdanynt eu hunain;

2: rhoi mwy o reolaeth i blant a phobl ifanc o ran pryd, ble a sut maen nhw eisiau datgelu eu hunaniaeth; ac yn achos y plant hynny sy’n gorfod cadw eu hunaniaeth yn breifat, nid ydynt yn amlwg absennol mewn ffotograffau grŵp;

3: amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cyswllt uniongyrchol gan drolwyr ar-lein neu sylw digroeso ar y cyfryngau gan bobl sydd â mwy o ddiddordeb mewn achosi trafferth na chefnogi eu syniadau.

 

 

Lawrlwythwch y PDF Diogelwch a Chymorth yma:

 

Download the entire AGENDA resource here!