1: DEWISWCH REOL Mewn grwpiau, trafodwch ba reolau rydych chi eisiau eu newid i wneud y byd yn lle mwy cyfartal a theg i fyw o ran rhywedd. Neu dewiswch unrhyw bwnc rydych chi’n teimlo’n gryf amdano lle mae angen newid y rheolau!
2: Rhowch un neges neu fwy am newid mewn GRAFFITI ar eich riwl.
3: LLINELL WEITHREDU Gwirfoddolwyr o bob grŵp (neu bawb)i ffurfio llinell hir.
4: ‘RELFIES’ RIWLIAU Daliwch ddwy riwl o flaen eich wyneb,a chael tynnu llun ‘Relfie’ Riwliau.
5: RIWLIAU RHUGLO Llenwch y man lle rydych chi a dewiswch rywbeth (e.e. cadair, rheiddiadur, bwrdd) i ruglo’ch riwliau yn ei erbyn.Gwnewch gymaint o sŵn â phosibl. Recordiwch y sŵn!
6: TRYDAR Lluniwch fideo byr i’w rannu ag ysgolion eraill,grwpiau ieuenctid neu sefydliadau. Defnyddiwch yr hashnod#dymasŵn <nodwch eich neges>.
7: CREU Beth arall allwch chi ei wneud â’ch riwliau? Creu clogyn?Eu cyfuno i ffurfio llinell weithredu? Defnyddiwch eich dychymyg!
Yn hoffi syniad y riwliauond angen addasu?
Argraffwch riwliau papur. Rhowch nhw ar bob sedd mewn neuadd ysgol neu ystafell ddosbarth. Gwahoddwch eraill i ysgrifennu ar gefn y riwliau papur pa reolau maen nhw eisiau eu newid. Casglwch nhw, a’u cyflwyno i’r sefydliad sydd â’r pŵer i wneud penderfyniadau ar y mater rydych chi wedi’i ddewis.
Darllenwch stori Ruler HeARTi gael eich ysbrydoli.
Gall rheolau olygu cyfreithiau,polisïau, normau cymdeithasol a stereoteipiau -unrhyw beth yr hoffech chi ei newid am sut mae pethau, sy’n ategu neu’n creu anghydraddoldeb
RELFIE yw hun-lun perthynas.
RELFIE RIWLIAU yw eich perthynaschi â’r newid rydych chi eisiau ei weldyn y byd.