twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

Barddoniaeth yw unrhyw fath o eiriau ysgrifenedig neu lafar sydd â  phatrwm a rhythm. Gall cerddi fod mor greadigol  ag y dymunwch, o farddoniaeth slam i gelf geiriau. Mae’r berthynas rhwng cerddi a gweithredaeth yn un hir ac agos, yn enwedig mewn mudiadau gwrth-wahaniaethu.

“Barddoniaeth yw’r ffordd rydym ni’n helpu i enwi’r dienw fel y gellir meddwl amdano. Mae gorwelion pellaf ein gobeithion a’n hofnau wedi’u seilio ar ein cerddi, a’u cerfio o graig profiadau ein bywydau beunyddiol”

Audre Lorde

Mae myfyrwyr ysgol uwchradd o bob rhan o ogledd a de Cymru yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Barddoniaeth Cymru bob blwyddyn. Darllenwch y cerddi Sticks and Stones a Blue for a Boy, Pink for a Girl sy’n cynyddu ymwybyddiaeth o seiber-aflonyddu rhywiaethol a rhywiol, a phwysau stereoteipio rhywedd. 

‘I am not sugar and spice and everything nice. I am music, I am art, I am a story...’

Ysgrifennwyd y gerdd ffeministaidd hon gan blentyn 8 mlwydd oed dienw. Fe’i postiwyd  ar-lein gan ei hathro a lledaenodd yn gyflym ar Twitter, yn enwedig y llinell olaf: “I am a rich pie strong with knowledge. I will not be eaten”.

Darllenwch fwy amdani yma. #Iwillnotbeeaten #richpie

 

Darllenwch gerdd un fenyw ifanc, Pretty, ar safonau harddwch cymdeithas.

 

Gwrandewch ar gerdd lafar Madiha Bhatti, MU(SICK), ar gasineb at wragedd yn y diwydiant cerddoriaeth.

 

Diwrnod Barddoniaeth y Byd yw 21 Mawrth.

I ddysgu mwy am bŵer barddoniaeth, cystadlaethau barddoniaeth a’r gair  llafar, ewch i wefan y bardd pobl ifanc, @litwales, y Rhwydwaith Beirdd Ifanc, a @youngpoetsnet.

Dysgwch sut i ysgrifennu barddoniaeth slam.

 

Lawrlwythwch y PDF Syniad am Newid yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!