Rydw i eisoes yn gwneud gormod, a nawr rydych chi eisiau i mi wneud rhywbetharall hefyd?
Mae ‘lludded athrawon’ yn broblem gydnabyddedig; mae ei gwreiddiau’n systemig yn hytrach nag yn unigol, ac mae angen mynd i’r afael â hi ar y cyd.
Gall sefydliadau fel NEU eich helpu gydag ymgyrchoedd a chyngor. Ond mae AGENDA yn ymwneud â grymuso pobl ifanc, a ddylai fod yn bwysig i bob athro. Crëwch ‘gwmwl cefnogaeth’ i’ch hun, fel yr un yr awgrymwn y dylai pobl ifanc ei ddatblygu i fapio’r cysylltiadau a’r rhwydweithiau sy’n gallu eich cynnal. Gall adnewyddu eich ymdeimlad o bwrpas, ystyr, a chysylltiad â myfyrwyr, rhieni a chydweithwyr helpu i osgoi lludded, a dyma beth mae AGENDA yn ei annog. Gweler hefyd yma.
Does gen i ddim amserar gyfer hyn o gwbl!
“Bwyta eliffantbob yn dipyn”.
Meddyliwch am sut y gellir integreiddio’r dulliau hyn mewn ffyrdd presennol o wneud pethau, er enghraifft, defnyddiwch grŵp sydd eisoes yn bodoli yn yr ysgol, cysylltwch ag asiantaethau allanol sy’n gallu cefnogi’r gwaith hwn, gan gynnwys NEU. Cofiwch am eich lles eich hun a dathlwch unrhyw beth y llwyddwch i’w gyflawni.
Beth am lais yr athro?
Nid gêm sero yw llais!
Mae gennym ni fwy yn gyffredin nag yn wahanol. Ni ddylai’r ffaith bod myfyrwyr yn cael lleisio’u barn atal athrawon rhag gwneud hynny hefyd. Mae’n bosibl bod athrawon yn teimlo fel petaent yn cael eu gwthio i’r ymylon oherwydd y ffordd y mae ysgolion yn cael eu trefnu yn hytrach nag oherwydd yr hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei wneud.
Mae’n ormod o risg, nid yw’n briodol
Mae hefyd yn risg i beidio â gwneud unrhyw beth.
Mae llawer o ffyrdd creadigolo gynyddu ymwybyddiaeth o faterion sensitif. Gadewch i’r bobl ifanc eich arwain ar yr hyn sy’n ‘briodol’ - mae’r materion yn dod ohonyn nhw a’u bywydau, a phan fyddan nhw’n dod o’r plant a’r bobl ifanc eu hunain, mae eu cyfoedion ac oedolion yn fwy tebygol o wrando.
Dydw i ddim yn gwybod digon am hyn!
Nid problem yw diffyg hyder neu wybodaeth mewn gwirionedd: mae’n iawn i beidio â gwybod!
Mae’r dulliau a ddisgrifir yma yn ymwneud â chael gwybodaeth ar y cyd a dysgu gyda’ch gilydd - gyda phlant a phobl ifanc, yn ogystal â chydweithwyr a’r gymuned ehangach. Cyfeiriwch blant a phobl ifanc at wasanaethau ac adnoddau eraill yn y gymuned lle bynnag y bo’n bosibl.
Ni fydd fy nghydweithwyryn ei hoffi
Cydweithiwch.Rhannwch gyfrifoldeb.
Datblygwch weithgor sy’n cynnwys cynrychiolwyr myfyrwyr a staff o wahanol flynyddoedd / adrannau / meysydd, yn ogystal â llywodraethwyr ac uwch aelodau staff. Estynnwch allan i ysgolion eraill a rhwydweithiau NEU. Fe allai fod yn syndod i chi faint o bobl sydd yno i’ch cefnogi.
Weithiau mae’n teimlo’n bersonol, fel ei fod yn pwysleisio nad ydw i bob amser yn cael pethau’n iawn. Rwy’n teimlo fymod i dan y lach.
Gosodwch god ymddygiad i bawb ei ddilyn, gan gynnwys aros yn ddienw, dangos parch, siarad yn y trydydd person yn hytrach nag am yr hyn y mae unigolion penodol yn ei wneud.
Beth am wrthwynebiad gan rieni a’r gymuned?
Fel arfer, mae rhieni’n pryderu oherwydd nad ydynt yn gwybod beth sy’n digwydd.
Cadwch sianeli cyfathrebu ar agor. Gwnewch yn siŵr eich bod chi - ond yn enwedig myfyrwyr - yn dweud wrth rieni beth sy’n digwydd, trwy anfon cylchlythyrau adref ac ati. Mae rhieni a gofalwyr eisiau i blant a phobl ifanc ffynnu, bod yn ddiogel, dysgu am y byd o’u hamgylch a theimlo eu bod nhw’n gallu gweithredu ynddo - dyna sydd wrth wraidd AGENDA.
“Mae’n fwy derbyniol pan fydd yn dod o’r plant”.
Ein busnes craidd yw addysgu a dysgu
Gwneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfri yw un o wersi pwysicaf bywyd!
Mae gan ysgolion ddyletswydd gofal i bobl ifanc sy’n mynd ymhellach na’u helpu i lwyddo mewn arholiadau yn unig... A chofiwch y bydd Addysg Perthnasoedd a Rhyw ac Addysg Iechyd yn statudol (rhan o’r cwricwlwm sylfaenol) yn Lloegr o 2020 ymlaen, a fydd yn mynd i’r afael â llawer o’r materion a drafodir yma. Ac yng Nghymru, bydd Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb yn statudol o 2022 ymlaen.
Mae’n myndallan o reolaeth!
Neilltuwch amser i sefydlu rheolau sylfaenol eglur. Ymgyfarwyddwch â pholisïau’r ysgol a chofiwch fod y Ddeddf Cydraddoldeb yn galluogi ysgolion i fod yn rhagweithiol ynglŷn â herio anghydraddoldeb. Yn yr un modd, dylai athrawon gael eu hamddiffyn rhag stereoteipiau, gwahaniaethu ac aflonyddu. Bydd creu agweddau cadarnhaol o fudd i bawb. Gadewch i’r enghreifftiau yn AGENDA eich ysbrydoli.
“Dylem wahodd her. Felarweinydd, rydw i EISIAU cael fy herio”.
Rydych chi’n gwthio’ch agenda cywirdeb gwleidyddol eich hun ar blant; nid oes gan fy rhai i ddiddordeb yn hyn
Mae’r astudiaethau achos yn AGENDA wedi’u seilio ar faterion a phryderon sy’n fyw ac yn bwysig iawn i’r bobl ifanc sy’n gysylltiedig.
Mae’n bosibl bod y plant a’r bobl ifanc rydych chi’n eu hadnabod yn wahanol iawn. Diben AGENDA yw awgrymu rhai ffyrdd creadigol a phenagored sy’n ymatal rhag barnu i ymateb i’r hyn y mae myfyrwyr yn ei gyflwyno - nid gorfodi unrhyw beth arnyn nhw.