twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

Gweithio gyda’n gilydd fel grŵp cyfan

1: Dewiswch gân mewn arddull gerddorol galonnog rydych chi’n ei hoffi’n fawr. Dylai hefyd fod â geiriau sy’n rymusol yn eich barn chi. 

2: Chwaraewch y gân sawl gwaith a dawnsiwch yn rhydd i’r gerddoriaeth a’r geiriau: ar eich pen eich hun, mewn parau, grwpiau bychain - arbrofwch! Gwnewch beth bynnag sy’n dod yn naturiol. Trowch y goleuadau i lawr yn isel i greu naws os ydych chi eisiau. Mae’n iawn i ymlacio a gwrando hefyd.

3: Nawr dewch at eich gilydd fel grŵp cyfan a chrëwch ddawns trwy gyfuno’ch syniadau dawnsio rhydd.

4: Ystyriwch ba ffurfiadau, lefelau a pherthnasoedd y byddwch chi’n eu creu rhwng pobl yn y lle er mwyn adlewyrchu’r teimlad arbennig o rymuso sy’n cael ei ysgogi gan y gerddoriaeth.

 

Gan weithio mewn parau neu grwpiau bychain

1: Dewiswch fideo cerddoriaeth sydd, yn eich barn chi, yn atgyfnerthu casineb at wragedd du a/neu fathau eraill o anghydraddoldeb a gwahaniaethu (e.e. homoffobia, trawsffobia, camwahaniaethu ar sail gallu corfforol, tlodi ac ati). 

2: Chwaraewch y fideo ac ysgrifennwch yr holl stereoteipiau rhywiaethol a hiliol sydd i’w gweld yn y fideo cerddoriaeth ar nodiadau gludiog. 

3: Crëwch symudiad neu olygfa wedi’i rhewi sy’n gwrthwynebu neu’n ailweithio’r stereoteipiau sydd i’w gweld yn y fideo. 

4: Rhannwch eich symudiad neu’ch golygfa â grwpiau eraill yn eich dosbarth, a cheisiwch weld a allwch chi eu cyfuno i greu perfformiad neu stori ddigidol. 

5: Argraffwch eiriau’r gân a darllenwch nhw i’ch hun yn dawel.

6: Trafodwch y geiriau rydych chi’n teimlo gryfaf amdanyn nhw gyda’ch grŵp a nodwch rai o’r teimladau hyn. 

7: Cymerwch dro i danlinellu gair neu ymadrodd allweddol o’r geiriau a’i dorri allan. 

8: Rhowch yr holl eiriau ac ymadroddion a dorrwyd gan y grŵp gyda’i gilydd, symudwch nhw o gwmpas a chwaraewch â’r drefn i greu gwahanol ystyron a rhythmau.

9: Pan fyddwch chi wedi gorffen, fe allech chi fod wedi creu ymadrodd, cerdd neu gân newydd. 

10: Ceisiwch weld a allwch chi gyfuno’ch geiriau newydd a’ch symudiadau i wneud eich fideo cerddoriaeth eich hun sy’n herio casineb at wragedd du neu stereoteipiau eraill.

Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.

    Cliciwch yma i ddarllen astudiaeth achos Rydyn Ni’n Symud!

Lawrlwythwch y gweithgarwch DIY hwn yma:

 

Download the entire AGENDA resource here!