2: Bob tymor ysgol, dewiswch fyfyrwyr i wirfoddoli o bob grŵp blwyddyni gynnal archwiliad GWYLIO RHYWEDD.
3: Defnyddiwch SERENi ddangos a yw’r ysgol wedi rhoi sylw i’r materion hyn.
4: Lliwiwch sbectrwm y fflam i ddangos lefel llwyddiant yr ysgol ar bob mater. Er enghraifft, efallai bod gan yr ysgol glybiau ar ôl ysgol sydd ar gael i bawb (cyfle cyfartal), ond dim ond bechgyn sy’n chwarae pêl-droed a dim ond merched sy’n gwneud dawns. Beth arall all yr ysgol ei wneud i gyflawni tegwch rhwng y rhywiau (canlyniad cyfartal)?
5: Ysgrifennwch adroddiad byr ar y cyd, crëwch stori ddigidol neu cyflwynwch wasanaeth ysgol sy’n dangos i ba raddau mae’r ysgol yn llwyddo, a beth mae angen ei wella.
6: Mae sgwariau gwag i’r myfyrwyr a’r staff ychwanegu eu syniadau eu hunain ynglŷn â sut maen nhw’n meddwl y dylai eu hysgol fod yn rhoi sylw i gydraddoldeb rhywedd ac amrywiaeth (e.e. staff yn rhoi’r goraui gyfarch myfyrwyr fel ‘merched a bechgyn’). Neu os ydychchi am ddechrau o’r dechrau, lawrlwythwch gerdyn BINGO GWYLIO RHYWEDD gwag.
Beth yw Ffeministiaeth?
Ffeministiaeth yw amrywiaeth o fudiadau a syniadau gwleidyddol a chymdeithasol sy’n rhannu nod cyffredin: cyflawni cydraddoldeb gwleidyddol, economaidd, personol a chymdeithasol i bob rhywedd.
Beth yw Cydraddoldeb Rhywedd?
Mae cydraddoldeb rhywedd yn golygu, pa grŵp rhyw bynnag a roddwyd i rywun ar adeg geni, a beth bynnag yw eu hunaniaeth rywedd neu eu mynegiant rhywedd, bod pobl yn gwireddu’r un hawliau, adnoddau, cyfleoedd ac amddiffyniadau yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn wleidyddol.
Beth yw Tegwch Rhywedd?
Mae tegwch rhywedd yn cyfeirio at y gwahanol anghenion a diddordebau y mae ar bobl eu hangen i sicrhau a chyflawni cydraddoldeb rhywedd.
“Gall ein rhywedd ddylanwadu ar ba mor ddiogel rydyn ni’n teimlo, ble rydyn ni’n teimlo y gallwn ni fynd, pa swydd rydyn ni’n teimlo y gallwn ni wneud cais amdani, a disgwyliadau pobl eraill amdanon ni. Gall y pwysau i gydymffurfio a’r anghydraddoldeb rhywedd sy’n bresennol yn ein cymdeithas achosi a digwydd o ganlyniad i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol”