Gweithredaeth gan gefnogwyr yw pan fydd grwpiaucefnogwyr yn ysgoginewid gwleidyddol ar faterion cymdeithasol trwy dynnu sylw at gysylltiadau rhwng diwylliant poblogaidd a’r byd go iawn.
Roedd y mudiad gweithredaeth gan gefnogwyr Prosiect Cydraddoldeb Glee yn cynnwys ailysgrifennu’r plotiau yr oedd cefnogwyr yn teimlo nad oeddent yn ymdrin yn llawn ag ymddygiad homoffobig neu drawsffobig cymeriadau allweddol yn y gyfres neu eu bod yn cyflwyno perthnasoedd heterorywiol yn wahanol i berthnasoedd LGBT+. Darllenwch eu Hadroddiad Cydraddoldeb ar gyfer Pennod 414 “I Do”.
Rhowch gynnig ar Brawf Bechdel, sy’n graddio ffilmiau yn seiliedig ar y maen prawf eu bod yn cynnwys o leiaf ddau gymeriad benywaidd sy’n siarad â’i gilydd am rywbeth ar wahân i gymeriad gwrywaidd.
Roedd gweithredaeth gan gefnogwyr The Hunger Games:Catching Fire, ‘The Hunger Games are Real’, wedi sbarduno’r ymgyrch Odds In Our Favor a ofynnodd i gefnogwyr ‘ymuno â’r gwrthsafiad’ a rhannu storïau am anghyfiawnder economaidd a chymdeithasol o hiliaeth ac anghydraddoldeb dosbarth i gyflog cyfartal. Gwyliwch y fideo yma.