Ystyriwch gael gwared â’r byrddau a’r cadeiriau a chreu sefyllfa sy’n ymwneud â symudiadau corfforol a chydbwysedd.
I efelychu’r amgylchedd a ddisgrifiwyd yn yr astudiaeth achos Canfod Cydbwysedd, dylai’r sefyllfa gynnwys cysylltiad rhwng cyrff nad yw’n ymwneud â chyffyrddiad corfforol uniongyrchol.
Y Bwrdd Padlo Sefyll i Fyny oedd yr adnodd cyfryngu yn y gweithgaredd hwn. Gallai matres, trampolîn neu fat cwympo weithio.
Yr ysgogiad i ffurfio cysylltiad yn yr enghraifft o’r Parc Dŵr oedd yr ofn y bydden nhw’n syrthio i’r dŵr, ac roedd gwir berygl y gallai hynny ddigwydd.
Mae’n anodd efelychu perygl corfforol go iawn; mae’n fwy effeithiol os yw’r sefyllfa’n cynnwys elfen o risg resymol nad yw’n wirioneddol beryglus. Gallech ofyn am gymorth cydweithwyr yn yr adran Addysg Gorfforol i ddylunio’r gweithgaredd hwn.
Efallai gallech efelychu profiad y parc dŵr trwy ofyn i grŵp gario rhywbeth bach a bregus (gweler Ffeltio ein Teimladau am syniadau) neu eitem drwm ar draws llwybr. Neu gallech ofyn i’r grŵp ddefnyddio dull cyfathrebu heblaw am siarad.
Yn ddelfrydol, fodd bynnag, os oes adnoddau ar gael, mae mynd â bobl ifanc allan i’r amgylchedd, gan hybu symud, gweithgaredd a chydweithredu, yn ffordd wych o gynllunio sesiwn ar gyrff, perthnasoedd neu un o feysydd penodol Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb.