Gan weithio’n unigol neu mewn parau, dechreuwch drwy ymchwilio i fygydau a chasglu adnoddau. Edrychwch ar sut mae mygydau’n cael eu defnyddio o amgylch y byd, a lleoliadau ac achlysuron lle mae mygydau’n dal i fod yn boblogaidd. Gwahoddwch y myfyrwyr i ystyried buddion posibl mygydau a gofynnwch a allan nhw feddwl am unrhyw sefyllfaoedd lle byddai mwgwd yn ddefnyddiol!
Rhowch fwgwd neu stensil mwgwd i bob myfyriwr a deunyddiau i weithio gyda nhw. Anogwch nhw i feddwl am symbolau neu arwyddion a allai fod yn berthnasol i swyddogaeth eu mwgwd.
Gwahoddwch y cyfranogwyr i weithio gyda lliw, deunyddiau ychwanegol (os ydynt ar gael) a siâp a dyluniad y mwgwd. Fe allen nhw wneud un a fyddai’n ddefnyddiol iddyn nhw nawr, neu yn y gorffennol neu’r dyfodol.
Pan fydd pawb wedi gorffen eu mygydau, casglwch y grŵp at ei gilydd. Gall y rhai sydd eisiau rhannu wisgo eu mygydau ac, fel grŵp, gymryd tro i ddyfalu swyddogaeth eu mygydau ei gilydd.