1: Penderfynwch ba fydoedd newid rhyw neu addasu rhywedd rydych chi eisiau eu harchwilio (e.e. byd anifeiliaid; cymeriadau cartŵn; ffigurau hanesyddol; sêr; pobl sydd mewn grym; llyfrau; ffilmiau; swyddi ac ati), a faint o gardiau rydych chi eisiau eu creu (e.e. 20).
2: Gwnewch beth gwaith ymchwil gan ddefnyddio’r adnoddau gwe ar y dudalen hon neu mewn mannau eraill yn y canllaw hwn. Dewiswch ddelwedd i gyd-fynd â’r ffaith rydych chi eisiau ei rhannu.
3: Rhowch y delweddau a’r testun mewn ffeil PowerPoint a’u cadw ar ffurf jpeg. Argraffwch ddau gopi o bob un (e.e. 40).
4: Dyluniwch eich clawr eich hun. Argraffwch ddigon i chi fedru lamineiddio pob cerdyn, gefn wrth gefn â’ch dyluniad chi.
5: Gosodwch nhw allan, â’r cefnau i fyny. Rydych chi’n barod i chwarae parau snap rhywedd!