1: Esboniwch wrth y grŵp eich bod chi’n mynd i gyflwyno cymeriad dychmygol o’r enw ‘Sam’. Rhowch y wybodaeth ganlynol am Sam iddyn nhw: Mae Sam yn ** oed [dewiswch oed sy’n berthnasol i’r grŵp] ac mae’n blentyn yn eich grŵp neu eich dosbarth yn yr ysgol. Mae Sam yn dioddef bwlio.
2: Rhannwch y grŵp yn grwpiau bach o 4-5, i drafod y cwestiynau canlynol:
Pwy yw Sam?
Beth sy'n digwydd i Sam?
Ble mae hyn yn digwydd?
Pam mae hyn yn digwydd?
3: Gofynnwch i bob grŵp bach greu ffrâm rhewi sy’n dangos senario maen nhw’n ei drafod. Gallai hynny gyfleu’r bwlio ei hun, neu olygfa ymlaen llaw neu wedyn.Pennwch reolau sylfaenol cyn iddyn nhw osod y ffrâm, e.e. dim cyswllt corfforol.
4: Mae’r grwpiau’n dangos eu fframiau rhewi i’w gilydd.Yn gyntaf mae un grŵp yn dangos, ac mae gweddill y dosbarth yn trafod beth allai fod yn digwydd tra bod y grŵp yn dal wedi rhewi.Yna maen nhw’n dod allan o’u rolau ac yn egluro beth oedd yn digwydd.
5: Gofynnwch i’r grwpiau ystyried pa gyngor bydden nhw’n ei roi i ‘Sam’, petaen nhw’n adnabod Sam. Yn ystod y drafodaeth, nodwch ac archwiliwch gyda’r plant werthoedd gwaelodol sut a pham mae rhywun yn pigo arnyn nhw/yn eu bwlio/yn aflonyddu arnyn nhw. Pam mae rhai gwahaniaethau’n cael eu targedu? Pa bwysau ehangach allai fod ar waith yma? (e.e. stereoteipiau rhywedd a rhywiol, tlodi).
6: Y peth hanfodol yma yw symud y drafodaeth i ffwrdd oddi wrth feio neu gywilyddio ‘bwlis’, ‘dioddefwyr’ neu ‘rai sy’n sefyll gerllaw’, a lleoli pob senario o fewn y pwysau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ehangach sy’n sail i bob diwylliant bwlio.
7: Rhannwch y grwpiau yn y dosbarth yn barau. Gwahoddwch un pâr i ddychwelyd i’w ffrâm rhewi gwreiddiol a gwahoddwch y pâr arall i greu ffrâm rhewi sy’n dangos rhai o’r pethau allanol sy’n rhoi’r senario gwreiddiol dan bwysau. Rhannwch a thrafodwch fel uchod. Beth allwn ni ei wneud?
8: Dosbarthwch bapur A4 a phennau lliw i bob plentyn. Gwahoddwch y grŵp i ystyried sut gallan nhw estyn llaw i atal diwylliannau bwlio yn eu grwpiau cyfoedion. Gofynnwch i’r holl gyfranogwyr dynnu llinell o amgylch eu llaw ar y papur.Gwahoddwch nhw i ysgrifennu ar bob bys rywbeth y gallan nhw ei wneud neu agwedd y gallan nhw ei mabwysiadu a fydd yn helpu i atal bwlio.Dyma rai enghreifftiau o ddatganiadau: ‘Ymfalchïo yn fy hunaniaeth’; ‘Parchu Cydraddoldeb’; ‘Amddiffyn hawliau’; ‘Rhoi gwybod am fwlio os bydda i’n ei weld’ a ‘Chodi Llais’.
9: Yna gall y plant addurno eu dwylo a rhoi eu darluniau dwylo gorffenedig ar fwrdd neu ar y llawr. Gwahoddwch y grŵp i edrych ar y gwahanol gamau gweithredu ar y dwylo ac ystyried: sut gall y camau gweithredu hyn newid ein cymuned neu ein hysgol? Pa rai gallwn ni eu rhoi ar waith nawr?
Gwahoddwch a chrëwch un llaw fawr o’r holl ddwylo bach i gynrychioli sut mae mynd i’r afael â diwylliannau bwlio a sefyll o blaid ein hawliau yn rhywbeth dydyn ni byth yn ei gyflawni ar ein pen ein hunain, ac sy’n effeithio arnon ni i gyd. Rydyn ni’n fwy gyda’n gilydd.
Gweithgaredd Estyn
Ymwelwch â dosbarth arall yn eich ysgol, neu ysgol gyfagos. Rhannwch yr hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud.
Lluniwch gerflun distaw o’r holl fframiau rhewi (h.y. y ffrâm rhewi senario bwlio i gyfleu beth sy’n digwydd, a’r ffrâm rhewi pwysau allanol i gyfleu pam mae’n digwydd).
Gallai pob grŵp roi nodiadau gludiog yn dweud sut mae aelodau’r ffrâm yn teimlo neu’r pwysau sydd arnyn nhw ar eu cyrff i eraill eu darllen a gofyn cwestiynau yn eu cylch.
Dosbarthwch y ‘dwylo helpu’ o amgylch y gynulleidfa. Dywedwch, ‘wnewch chi estyn llaw i helpu?’. Wrth iddyn nhw roi’r dwylo i’r cerfluniau sydd wedi rhewi, mae’r rhew yn torri.
Gan fyfyrio ar y broses, a defnyddio’r dwylo helpu, trafodwch beth, pam a sut mae diwylliannau bwlio’n digwydd, a blegall plant gael mynediad at help a chymorth os bydd unrhyw faterion a drafodwyd yn y sesiwn wedi peri pryder iddyn nhw.
Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfery plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.