twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

1: Edrychwch drwy ‘syniadau ar gyfer newid’ AGENDA a nodwch yr holl bethau sydd o ddiddordeb i chi.

2: Dilynwch y dolenni neu defnyddiwch y cyfleuster chwilio i ddysgu mwy am fater penodol (e.e. amrywiaeth rhywedd, rhywiaeth yn y diwydiant cerddoriaeth, casineb at wragedd du)

3: Dewiswch fater y byddech chi’n hoffi cynyddu ymwybyddiaeth ohono. Gwnewch ragor o ymchwil fel bod gennych chi ddigon o wybodaeth i greu 10 brawddeg fer sy’n dechrau gyda “Doeddwn i ddim yn gwybod bod...”

4: Dewiswch bwnc rydych chi’n gwybod llawer amdano. Lluniwch 10 brawddeg fer am y pwnc hwn, yn dechrau gyda “Rwy’n gwybod bod ...”

5: Nawr rydych chi’n barod i greu eich stori cardiau fflach “ddim/yn gwybod”. Gan ddefnyddio’r marcwyr lliw, ysgrifennwch un dudalen ‘yn gwybod ac un dudalen ‘ddim yn gwybod’. Daliwch ati nes bod gennych chi 10 tudalen ddwbl.

ENGHRAIFFT: “Rydw i’n gwybod bod hiliaeth a rhywiaeth yn gorgyffwrdd, OND, doeddwn i ddim yn gwybod bod rhai pobl yn galw hyn yn gasineb at wragedd du”

 

6: Defnyddiwch ddarluniadau ar bob tudalen, er enghraifft ffotograffau, lluniadau, emojis.

7: Dewiswch rywle tawel a phreifat i ffilmio eich stori cardiau fflach. Ceisiwch osgoi defnyddio unrhyw nodweddion y gellir eu hadnabod (e.e. wynebau).

8: Cadwch y cyfan yn ddiogel, a’i lanlwytho i gyfrif Vimeo neu YouTube ysgol, grŵp ieuenctid neu oedolyn rydych chi’n gallu ymddiried ynddo.

9: Dyfeisiwch hashnod a thrydar eich stori cardiau fflach ar gyfrif Twitter eich cyngor ysgol neu eich grŵp. Fel arall, gofynnwch i’r Comisiynydd Plant yng Nghymru neu Loegr drydar eich stori ar eich rhan.

“Roedd yn llawer o hwyl mynd o gwmpas yn trefnu bod yr holl athrawon yn troi’r tudalennau, ac yn gwylio’u hwynebau pan oedden nhw’n sylweddoli beth oedd y llyfr yn ei drafod!”

“Roeddwn i wrth fy modd yn creu lluniau ar gyfer y llyfr - rwy’n dwlu ar Disney!”

“Fe wnes i fwynhau hyn yn fawr... achos rydyn ni’n fwy na’n graddau!”

Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.

    Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaeth achos #Morethanourgrades

Lawrlwythwch y gweithgarwch DIY hwn yma:

 

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!