1: Gan ddefnyddio clai neu does chwarae, dechreuwch ei wasgu, ei siapio a’i gerfio’n gorff
2: Trafodwch y cyrff rydych chi’n eu creu gyda’r bobl sydd gyda chi:
A yw’n berson, anifail, seiborg?
A yw’n llyfn a / neu’n gnyciog?
Yn galed a / neu’n feddal?
Beth all eich corff ei wneud?
3: Ceisiwch roi bywyd i’ch corff(e.e. trwy animeiddiad neu ffilm)
4: Gyda phwy fyddech chi eisiau rhannu stori eich cerflun corff fwyaf? (ffrindiau, asiantaeth harddwch, pawb, neb)
“Mae clai yn ddeunydd diddorol i’w ddefnyddio i feddwl oherwydd gellir ei guro, ei wasgu a’i dynnu’n amryw ffurfiau, ond mae hefyd yn anodd gwneud iddo gyfleu’r delweddau sydd yn ein meddyliau”
“Roedd gweithio gyda’r clai wedi creu lle ar gyfer camgymeriadau a chwerthin, yn ogystal â chysylltu â’n brwydrau ein hunain â’n cyrff i gyflawni safonau perffeithrwydd cymdeithas”
Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgareddau hyn ar gyfery plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.