Dewiswch gynhyrchion harddwch o ryw fath (pensel llinellu, minlliw, lliw ewinedd, estyniadau gwallt, lliw haul ffug, blew amrannau ffug) y gallech chi eu gweld mewn siop leol neu ar-lein.
Cymerwch ddarn mawr o gerdyn trwchus a defnyddiwch y cynhyrchion harddwch i ysgrifennu, lluniadu a gwneud marciau sy’n mynegi eich teimladau am y diwydiant harddwch.
Gweithgaredd
1: Stwnsho, Cymysgu a Fframio: torrwch y delweddau a’r testun yn y cylchgronau sy’n codi eich gwrychyn. Rhowch y darnau i mewn i’r fwced neu’r carton. Trowch nhw gyda’r ffyn. Ychwanegwch y llifyn. Casglwch ddyrneidiau bach o mache a chrëwch ffrâm o amgylch eich cerdyn. Beth am ychwanegu ychydig o’r llathr*?
2: Teitl/Di-deitl?: Oes gan eich darn terfynol enw?Hashnod?
3: Oriel stwnsh cyrff: pan fyddwch chi wedi gorffen eich map harddwch, beth am dynnu llun o’r darn. Cynhaliwch arddangosfa neu crëwch oriel ar-lein ar Instagram, Flickr neu wefan arall sy’n cynnal delweddau, fel bod eraill yn gallu eu gweld a’u darllen nhw.
Gweithgaredd estyn
Dysgwch fwy am sut mae’r diwydiant harddwch yn ceisio gweddnewid y normau rhywedd a rhywiol mae wedi’u creu dros y blynyddoedd. I ba raddau mae’r diwydiant harddwch yn gweithio o blaid ac yn erbyn delfrydau normadol? A all y diwydiant harddwch hybu cyfiawnder cymdeithasol? Neu a ydyn nhw’n hybu cynwysoldeb a chyfiawnder ar yr wyneb yn unig? Pa normau harddwch newydd ydych chi’n eu gweld o’ch cwmpas? A yw tanseilio delfrydau harddwch yn cael ei droi’n nwyddau?
Beth am greu trac sain o ganeuon calonogol sy’n cyfleu agwedd gadarnhaol am gyrff i gyd-fynd â’ch gweithdystwnsho cyrff?
Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgareddau hyn ar gyfery plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.
*Mae unrhyw un sydd erioed wedidefnyddio llathr yn gwybod ei fod ynmynd i bobman. Felly pam llathr?Mae gallu llathr i barhau yn hir ar ôl i weithgaredd ddigwydd yn ei wneud ynrymus! Bob tro y gwelwch chi unrhyw lathr, bydd yn eich atgofio o sut y buoch chi’n greadigol wrth stwnsho delfrydau normadol o’r corff.