twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

Mae cynnal eich cynhadledd neu’ch digwyddiad eich hun, neu roi cyflwyniad ynddi/ynddo, yn ffordd wych o rannu eich syniadau gyda phobl eraill, yn enwedig y rhai sy’n canolbwyntio ar fywydau pobl ifanc. 

Mae #WAM (We Are More), sef grŵp pwerus o bobl ifanc, wedi creu drama o’r mathau o rywiaeth pob dydd maen nhw’n eu profi. Mae eu henw ‘WAM:  We Are More’ yn ymateb i sylwadau bychanol am hyd sgertiau, colur a chodi cywilydd ar ferched oherwydd eu cyrff.  Darllenwch fwy am eu perfformiad a gwaith pobl ifanc eraill ar drais domestig, perthnasoedd iach a gwrth-homoffobia yng Nghynhadledd Agenda Addysgu Cymru neu gwyliwch y fideo o’r gynhadledd yma.

Agenda ambassadors 2017 from Emma Renold on Vimeo.

Roedd un ysgol uwchradd yn cynnal cynhadledd Ysgolion Cynhwysol gydag ysgolion cynradd lleol ac ar eu cyfer. Casglwyd addewidion gan blant ac athrawon ynglŷn â beth oedden nhw eisiau ei weld o  raglen Addysg Rhyw a Pherthnasoedd gynhwysol. Rhoddwyd yr addewidion mewn Piñata enfys ac roeddent yn cynnwys:

 

Darllenwyd yr addewidion gan ysgrifennydd y cabinet dros addysg, sef Kirsty Williams, yn y gynhadledd Addysgu AGENDA.  

Ewch i  GODI LLAIS  i gael gwybod mwy.

Mae WOW Women of the World yn cynnal digwyddiadau yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd sy’n cynnwys gweithdai, gosodiadau celf, sgyrsiau ysbrydoledig, a gwib-fentora ar bopeth sy’n ymwneud â rhywedd.

Darllenwch am gynhadledd Cynulliad Ffeministaidd Ysgol Uwchradd Fitzroy yn Awstralia a arweiniwyd gan bobl ifanc, sef YOUR VOICE #unite #inspire # disrupt. Fe wnaethon nhw gynnig gweithdai ar: wrywdod gwenwynig, ffeministiaeth fel rhywun o liw gwahanol, hunaniaethau hoyw: dadbacio cymuned a llawer mwy... 

Os cewch chi wahoddiad i gymryd rhan mewn cynhadledd, neu os hoffech chi gynnal un eich hun, gallai’r canllaw hwn a’r awgrymiadau da hyn fod yn ddefnyddiol.

Lawrlwythwch y PDF Syniad am Newid yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!