sicrhau bod uwch arweinwyr a chyrff llywodraethu (a rhieni/gofalwyr, os yw’n briodol) yn ymwybodol o’r hyn rydych chi’n ei wneud
I gael cefnogaeth uwch arweinwyr, cyrff llywodraethu, a rhieni/gofalwyr,defnyddiwch yr adran hon i’w cyfeirio at fannau lle y gallant gael gwybod mwy am y rhesymau pam a sut y gall yr adnodd gefnogi dulliau ysgol gyfan o ymdrin ag addysg rhywioldeb a pherthnasoedd.
sicrhau bod gennych chi strategaethau diogelu a chefnogi clir, gan gynnwys ar eich cyfer eich hun
Ewch ati i loywi eich gwybodaeth am holl brotocolau a gweithdrefnau diogelu ac amddiffyn plant eich ysgol. Cysylltwch ag asiantaethau allanol perthnasol i gael cymorth a chyngor ychwanegol. Ystyriwch ddilyn gwers neu raglen waith benodol neu gynnwys gweithgaredd ynddi (e.e. gweler Crefftwaith Cydraddoldeb).
sicrhau bod plant yn gwybod blei fynd i gael cymorth
Gall cynyddu ymwybyddiaeth o faterion sensitif fod yn rymusol ond fe allai hefyd ddod â materion personol i’r wyneb y bydd angen i blant a phobl ifanc gael cymorth ychwanegol gyda nhw gan asiantaethau a sefydliadau arbenigol, y mae llawer ohonynt wedi’u cynnwys yn yr adran hon. Defnyddiwch neu addaswch y gweithgaredd‘cwmwl cefnogaeth’ ar y dudalen nesaf.
wybod beth yw’r gyfraith (e.e. dyletswydd cydraddoldeb, trais yn erbyn merched a menywod,trais rhywiol a cham-drin domestig, troseddau casineb ac ati)
Mae’n bwysig gwybod am y ddeddfwriaeth berthnasol er mwyn gallu ymateb i gwestiynau plant gyda gwybodaeth gyfredol a chywir. Fodd bynnag, dylech gydnabod nad yw’r gyfraith yn helpu plant a phobl ifanc i ddelioâ’r anghyfiawnder cymdeithasol a’r trais maen nhw’n eu gweld o’u hamgylch.
greu amgylchedd diogel, cynhwysol a chyfrinachol lle y gellir rhannu ac archwilio amrywiaeth eang o safbwyntiau a theimladau
Gellir addasu llawer o’r gweithgareddau dechreuol yn yr adnodd hwn yn ôl cyd-destun, ac maen nhw’n addas i archwilio materion sensitif. Gall defnyddio dulliau creadigol eich helpu i greu amgylcheddau diogel, moesegol a chynhwysol lle y gwrandewir ar bob plentyn a pherson ifanc (Gweler Adran 2 i gael gwybod mwy).
Cyn i chi ddechrau gweithgaredd neu ymgyrch cynyddu ymwybyddiaeth, ystyriwch greu cyfres o ‘reolau sylfaenol’ ynglŷn â pharchu hawliau gyda’r plant a’r bobl ifanc, sy’n pwysleisio’r hyn sy’n gwneud amgylchedd diogel, croesawgar a chyfrinachol i bawb. Bydd plant a phobl ifanc hefyd yn gallu cynnig y syniadau gorau ar gyfer lle neu weithgaredd ‘amser i fyfyrio’, neu sut i ddefnyddio blwch sylwadau dienw neu ‘fasgedi gofyn’ ar gyfer cwestiynau anodd neu sensitif heb gael eu henwi.
ddefnyddio eich barn broffesiynol i benderfynu sut i ddefnyddio ac addasu’r gweithgareddau yn eich lleoliad
Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau yn yr adnodd hwn yn addas i blant cynradd 7-11 oed, neu gellir eu haddasu ar eu cyfer. Mae rhai o’r gweithgareddau’n addas i’w haddasu ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Gweler Adran 2 i weld sut mae dulliau creadigol yn cefnogi arferion sy’n briodol i ddatblygiad ac yn canolbwyntio ar y plentyn.
leoleiddio materion sy’n cael eu codi gan blant a phobl ifanc
Myfyriwch ar sut mae’r materion a godwyd yn yr adnodd hwn yn berthnasol i gyd-destun lleol plant a phobl ifanc - yn awr ac yn y gorffennol. Gallai hyn helpu i roi rhai o’r materion mawr mewn cyd-destun a helpu’r plant a’r bobl ifanc i’w deall a’u gwneud yn ystyrlon.
gredu mewn plant a phobl ifanc
Bydd plant a phobl ifanc yn gwerthfawrogi amgylchedd lle y gallant gyd-drafod, cynnal trafodaeth a datblygu eu dealltwriaeth eu hunain. Yn aml iawn, mae hyn yn golygu dysgu sut i ddad-ddysgu’r hyn y credwn ein bod yn ei wybod, fel y gallwn fod yn chwilfrydig am ‘yr hyn sy’n bwysig’ i blant a phobl ifanc. I wneud hyn, mae angen bod yn barod i wrando ar beth mae plant a phobl ifanc yn ei ddweud wrthym, a gallu addasu gweithgareddau i’w diddordebau a’u hanghenion.
Mae gan y Fforwm Addysg Rhyw lawer o adnoddau i ymarferwyr addysgol ar Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb, “wedi’u hategu gan dystiolaeth, ymagwedd wedi’i seilio ar hawliau a’r anghenion a fynegwyd gan blant a phobl ifanc”