twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

Mae creadigrwydd wrth wraidd yr adnodd. Mae AGENDA wedi cael ei ysgrifennu fel cyfres o awgrymiadau i chi ychwanegu atynt yn greadigol.

Un o nodau allweddol AGENDA yw dangos i chi sut mae gweithio’n greadigol yn gallu helpu plant a phobl ifanc i rannu’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw ar draws amrywiaeth o faterion addysg perthnasoedd a rhywioldeb (RSE). 

Gallwn ddechrau trwy ofyn y cwestiwn, ‘Beth mae’n ei olygu i fod yn greadigol?’

Mae’r holl weithgareddau ac astudiaethau achos ar wefan AGENDA yn cyfuno dulliau creadigol (e.e. drama, tynnu lluniau, dawns) ag addysgeg greadigol (h.y. pan fydd ansicrwydd a chwilfrydedd yn cael eu hychwanegu). 

Mae ffyrdd creadigol o weithio, fel adrodd stori, crefftwaith, symud neu gerddoriaeth, yn ein galluogi i ddod yn fwy ymwybodol o beth sy'n bwysig i blant a phobl ifanc. 

Gallant eich galluogi i ganfod beth mae plant a phobl ifanc yn ei wybod a beth nad ydynt yn ei wybod, a beth yr hoffent ddysgu mwy amdano a pham. Weithiau, cyfeirir at y broses hon fel addysgu ‘priodol i oedran’ neu ‘ddatblygiadol briodol’. 

Mae bod yn greadigol yn cynnwys y chwe elfen a amlinellir yn yr adran hon.

DYCHYMYG

Gall gweithio’n greadigol ac yn feirniadol alluogi plant a phobl ifanc i ddychmygu bywydau, hunaniaethau, teuluoedd a phrofiadau eraill, a ffyrdd eraill o fod yn y byd. Yn aml, cyflawnir hyn trwy storïau ffuglennol, drama a delweddu.

Dychymyg - y broses o ffurfio delweddau newydd yn y meddwl nad ydynt wedi cael eu gweld, eu clywed na’u teimlo o’r blaen.

 

SYNHWYRAIDD

Gall gweithio mewn ffordd greadigol annog ymatebion newydd i deimladau, syniadau, symudiadau, cysyniadau neu sefyllfaoedd cyfarwydd neu anghyfarwydd. Mae gwrthrychau ac arteffactau sy’n cael eu creu trwy broses greadigol am yr hyn sy’n bwysig i blant a phobl ifanc yn gallu cael eu rhannu hefyd er mwyn i bobl eraill ryngweithio â nhw mewn ffyrdd amlsynhwyraidd.

 

Mae bodau dynol yn greaduriaid teimladol: y golwg, y clyw, synnwyr blasu, synnwyr arogleuo, a chyffwrdd (synnwyr corfforol) yw’r pum synnwyr mwyaf cyffredin. Mae’r gallu i ganfod ysgogiadau eraill y tu hwnt i’r synhwyrau hyn yn bodoli hefyd.

CHWILFRYDEDD

Yn aml iawn, mae bod yn greadigol yn golygu dysgu sut i ddad-ddysgu’r hyn y credwn ein bod yn ei wybod, fel y gallwn fod yn chwilfrydig am ‘yr hyn sy’n bwysig’ i blant a phobl ifanc. I wneud hyn, mae angen bod yn barod i wrando ar beth mae plant yn ei ddweud wrthym, a gallu addasu gweithgareddau i’w diddordebau a’u hanghenion.

 

Chwilfrydedd: o’r Lladin cūriōsus, sy’n golygu “gofalus, diwyd, chwilfrydig” a cura “gofal” - nodwedd sy’n gysylltiedig â meddwl holgar fel archwilio, ymchwilio, a dysgu.


 

 

CELFYDDYD

Yr hyn sy’n creu celfyddyd yw sut mae digwyddiad, arteffact neu brofiad yn datblygu i ddangos potensial i’r dyfodol. Creadigrwydd ar garlam yw’r broses sy’n caniatáu agor mannau llwyd ar gyfer mynegiant a thrafodaeth, lle mae syniadau’n datblygu a chysylltiadau newydd yn cael eu creu.

DIOGEL A CHYNHWYSOL

Gall addysgeg a dulliau creadigol eich cefnogi i greu amgylcheddau diogel a chynhwysol lle y gwrandewir ar bob plentyn. Trwy ddefnyddio ystod eang o fynegiant, gallwch greu mannau lle gall plant deimlo, meddwl, cwestiynu, a rhannu materion teimladol, sensitif neu anodd, heb ddatgelu gormod amdanynt eu hunain, fel beth sy’n aflonyddu arnynt, beth sy’n niweidiol, beth sy’n deg neu beth sy’n gydsyniol.

 

 

MOESEGOL

Nid mater o ganiatáu unrhyw beth yw defnyddio dulliau creadigol. Mae’n bwysig caniatáu i syniadau a mynegiadau ffynnu, ond mae hefyd yn bwysig cadw golwg ar sut mae perthnasoedd pŵer, normau ac anghydraddoldebau yn datblygu (e.e. sut mae stereoteipiau rhywedd neu radicaleiddio yn cael eu hatgyfnerthu, eu cwestiynu neu eu herio).

 

Elusen yw tender.org.uk sy’n defnyddio dulliau celfyddydol i gyflwyno addysg perthnasoedd iach mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a lleoliadau addysgol amgen.  

Eisiau dysgu mwy am ddulliau creadigol ac addysgeg greadigol? 

Sut mae’r celfyddydau mynegiannol yn gallu gwella iechyd a lles

Dulliau creadigol o ddarparu addysg perthnasoedd a rhywioldeb o amgylch y byd

Dysgwch fwy am ymchwil sy’n ymwneud â dysgu creadigol a dulliau creadigol

Download the entire AGENDA resource here!