Mae AGENDA yn dod o’r Lladin “pethau i’w gwneud”, “materion i weithredu arnynt”. Mae cefnogi hawliau plant i gael eu clywed a gwneud gwahaniaeth i faterion sy’n effeithio arnynt yn ganolog. Er bod ysgogi newid yn gwau trwy’r adnodd i gyd, y peth pwysicaf yw dysgu a phrofi’r broses, nid y canlyniad.
Mae AGENDA yn llawn syniadau, gwybodaeth a storïau i’ch helpu i greu amgylchedd diogel, cefnogol, cynhwysol a difyr lle gall plant a phobl ifanc siarad yn agored a dweud beth sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r adnodd yn cynnig nifer o enghreifftiau (gweler y cwmwl geiriau) o’r hyn y gellid ei archwilio a sut, ynghyd â chyfeiriadau eglur at gymorth a chyngor ar faterion diogelu. Mae AGENDA yn dangos bod darpariaeth RSE dda yn ymwneud â gwrando ar blant a phobl ifanc a gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill. Mae’n ymwneud â datblygu perthnasoedd a chysylltu gwahanol safbwyntiau ac arbenigeddau (rhai plant ac oedolion).
Mae AGENDA wedi cael ei ysgrifennu fel cyfres o awgrymiadau i chi ychwanegu atynt yn greadigol. Mae creadigrwydd yn gallu annog ymatebion newydd i syniadau, teimladau, symudiadau, cysyniadau neu sefyllfaoedd cyfarwydd neu anghyfarwydd. Mae ffyrdd creadigol o weithio, fel adrodd stori, crefftwaith, symud neu gerddoriaeth, yn ein galluogi i ddod yn fwy ymwybodol o beth sy'n cyfri i blant. Trwy ddefnyddio ystod eang o fathau o fynegiant, gallwch greu lleoedd i blant deimlo, meddwl, cwestiynu, a rhannu materion teimladol, sensitif neu anodd, heb ddatgelu gormod o’u hunain. Eich dulliau addysgu, i bob pwrpas, yw’r hyn sy’n gwneud yr AGENDA, wrth i chi weithio’n greadigol gyda’r hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei ddweud wrthych.
Yn rhy aml, mae plant a phobl ifanc yn dysgu am berthnasoedd a rhywioldeb trwy stereoteipiau negyddol sy’n aml yn benodol i rywedd a dosbarth, wedi’u radicaleiddio a’u rhywioli, ac yn camwahaniaethu ar sail gallu corfforol, gyda’r pwyslais ar gywilydd a bai.Mae AGENDA yn dechrau o ymagwedd gadarnhaol sy’n cadarnhau ac yn derbyn profiadau plant a phobl ifanc a’u galluogi i gael eu harchwilio mewn ffordd sensitif. Mae’n gwneud hyn trwy roi amrywiaeth o ffyrdd creadigol i blant a phobl ifanc fynegi teimladau a syniadau, sy’n gallu bod yn rymusol pan fydd yn pwysleisio nad yw plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain a bod llawer yn rhannu eu profiadau. Mae AGENDA yn annog ymagwedd ar y cyd at faterion RSE. Mae’n gwahodd plant a phobl ifanc i ffurfio cynghreiriau ag eraill a gweithredu ar yr anghyfiawnderau yn eu bywydau a’u lles nhw eu hunain a phobl eraill.
Mae AGENDA yn defnyddio lens lydan i archwilio gyda phlant a phobl ifanc sut mae perthnasoedd cadarnhaol, â’u holl wahaniaethau ac amrywiaeth, yn bwysig.Mae llawer o’r astudiaethau achos yn cefnogi addysg perthnasoedd a rhywioldeb sy’n parchu hawliau sydd wedi’i gwreiddio yng nghyd-destun tegwch, cyfiawnder cymdeithasol, diogelwch a lles. Bydd yr adnodd yn rhoi syniadau i chi am sut y gallwch archwilio effaith perthnasoedd pŵer anghytbwys mewn cymdeithas gyda phlant mewn ffordd ddiogel a chreadigol. Mae llawer o’r astudiaethau achos yn ymwneud â hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb rhywiol. Maen nhw hefyd yn mynd i’r afael â rhywioldeb a hawliau mewn perthynas, a rhyddid rhag anghydraddoldeb, gormes a thrais rhywiol ac ar sail rhywedd.
Mae chwilfrydedd wrth wraidd AGENDA. Trwy ddechrau gyda chwilfrydedd, gallwn geisio adnabod ‘beth sy’n cyfri’ i blant a phobl ifanc wrth i ni addysgu RSE. Un o nodweddion allweddol yr adnodd yw darparu cyfleoedd i greu lleoedd rhyngweithiol a gweithredol sy’n gwahodd plant a phobl ifanc i siarad yn agored a dweud beth sy’n bwysig iddyn nhw mewn ffyrdd sy’n meithrin meddwl, deall, trafod a gweithredu dros newid ar y cyd.
Mae plant yn dysgu am rywedd, perthnasoedd a rhywioldeb ymhell cyn iddynt ddechrau’r ysgol(e.e. o hysbysebion, llyfrau, cyfryngau cymdeithasol, y teledu ac aelodau’r teulu achyfoedion yn eu cymunedau).
Mae ysgolion yn fannau allweddoli ddysgu o syniadau, cwestiynau ac anghenion datblygol plant a phobl ifanc am amrywiaeth o faterion RSE, ac ymateb iddynt, yn amrywio o ddelwedd y corff i gydsyniad.
Mae perthnasoedd yn gallu cael eu ffurfio o fewn a rhwng pobl, ond hefyd gydag, er enghraifft, duwdodau, lleoedd, gwrthrychau, anifeiliaid a byd natur (e.e. anifeiliaid anwes, hoff degan, yr amgylchedd).
Gall perthnasoedd rhyngbersonol gynnwys amrywiaetho gysylltiadau a chlymau rhwng, er enghraifft, aelodau’r teulu, cyfoedion, perthnasau, partneriaethau sifil a phriodasol rhwng oedolion, a chydag amrywiaeth eang o bobl eraill (e.e. cymdogion, gweithwyr siop ac ati). Mae perthnasoedd yn cyflwyno plant i amrywiaeth o deimladau (e.e. anwyldeb, agosatrwydd, gofal, ofn, cariad, rhwymedigaeth, pŵer, analluogrwydd, parch, ymddiriedaeth) sy’n amrywio ac yn newid drwy gydoleu cysylltiad â phobl eraill. Mae rhai perthnasoedd yn fyr iawn, tra bod eraill yn para oes. Mae rhai perthnasoeddyn cael eu rheoleiddio gan ddeddfau, arferion, defodaua chydgytundeb.
Mae perthnasoedd dynol yn cael eu ffurfio ganamrywiaeth o normau cymdeithasol (e.e. normau rhywedd) ac yn gweithredu yng nghyd-destun perthnasoedd pŵer newidiol, anghytbwys, anghyfartal neu gamdriniol.
Defnyddir ‘Rhywedd’ yn yr adnodd hwn i gyfeirio at sut mae cyrff rhywiol yn cael eu byw (e.e. fel hunaniaeth, fel mynegiant, trwy ryngweithio cymdeithasol), eu cynrychioli (e.e. mewn iaith, yn y cyfryngau, mewn diwylliant poblogaidd) a’u rheoleiddio (e.e. gan normau cymdeithasol-ddiwylliannol megis stereoteipiau ‘gwrywdod’ a ‘benyweidd-dra’, ac yn y gyfraith).
Er bod y cysyniad o rywedd yn gallu cynnwys y gwahanol ffyrdd y mae cymdeithasau’n neilltuo cromosomau neu rannau o’r corff i gategorïau rhyw, nid yw’n gyfystyr â rhyw, ac nid yw’n cyfeirio at hunaniaeth rywedd neu fynegiant rhywedd yn unig.
Mae’n gysyniad sy’n caniatáu ar gyfer dadansoddi rhywedd fel egwyddor sy’n trefnu cymdeithas (e.e. sut mae rhywedd yn ffurfio ac yn cael ei ffurfio gan ffactorau economaidd, amgylcheddol, gwleidyddol, diwylliannol, cyfreithiol, hanesyddol, crefyddol ac ysbrydol). Fel cysyniad, mae hefyd yn galluogi archwilio sut mae gwahanol gymdeithasau’n mynd i’r afael â chroestoriad prosesau biolegol, cymdeithasol-ddiwylliannol a seicolegol.
Rhyw
Defnyddir ‘rhyw’ yn yr adnodd hwn i gyfeirio at y prosesau a’r priodoleddau biolegol a ddefnyddir gan gymdeithasau i neilltuo categorïau rhyw (e.e. gwryw, benyw, rhyngrywiolyn). Mae’r priodoleddau biolegol hyn yn cynnwys cromosomau, hormonau ac anatomi rhywiol ac atgenhedlu corfforol mewnol ac allanol.
Hunaniaeth o ran rhywedd
Defnyddir ‘hunaniaeth o ran rhywedd’ yn yr adnodd hwn i gyfeirio at sut mae unigolyn yn ei weld ei hun. Nid yw hunaniaeth o ran rhywedd o reidrwydd yn ymwneud â’r rhyw a neilltuwyd i unigolyn ar adeg ei eni. Mae teimladau ynglŷn â hunaniaeth o ran rhywedd yn dechrau’n gynnar, pan fydd plant tua 2-3 oed.
Mynegiant rhywedd
Defnyddir ‘mynegiant rhywedd’ yn yr adnodd hwn i gyfeirio at yr arwyddion allanol a ddefnyddir gan bobl i gyfleu eu hunaniaeth o ran rhywedd (h.y. sut maen nhw’n eu gweld eu hunain). Gall hyn gynnwys, er enghraifft, rhagenwau dewisol, dewis o enw, ffordd o wisgo a golwg, ystumiau ac ymddygiad.
Mae diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) o rywioldeb yn llywio’r adnodd hwn. Maen nhw’n diffinio rhywioldeb fel “... agwedd ganolog o fod yn ddynol drwy gydol bywyd sy’n ymgorffori rhyw, hunaniaethau a rolau o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, erotigiaeth, pleser, agosatrwydd ac atgenhedlu. Mae rhywioldeb yn cael ei brofi a’i fynegi mewn meddyliau, ffantasïau, dyheadau, credoau, agweddau, gwerthoedd, ymddygiadau, arferion, rolau a pherthnasoedd. Er bod rhywioldeb yn gallu cynnwys yr holl elfennau hyn, nid yw pob un ohonynt yn cael eu profi neu eu mynegi bob amser. Mae’r rhyngweithio rhwng ffactorau biolegol, seicolegol, cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol, diwylliannol, cyfreithiol, hanesyddol, crefyddol ac ysbrydol yn dylanwadu ar rywioldeb.” (WHO 2006, 2010). Gallwch weld mwy o ddiffiniadau’r WHO o iechyd rhywiol a hawliau rhywiol yma.