Darllenwch yr astudiaeth achos KISSTORY, yr animeiddiadau a’r stori ddigidol i gael syniadau ynghylch sut igreu gweithdy neu weithgaredd am gydsyniad i gefnogi’r gweithgaredd DIY hwn.
CREU COMIGAU
1. Gwyliwch un neu fwy o’r animeiddiadau KISSTORY a thrafod storïau posibl mewn grwpiau neu barau.
2. Yn unigol neu mewn parau, dewiswch un o’r saith stribed comig neu stribed comig gwag.
3. Edrychwch ar y dudalen gyntaf sy’n cyflwyno’r stori un ffrâm ar y tro. Fesul ffrâm, soniwch am beth allai fod yn digwydd. Pwy yw’r cymeriadau? A fydd ganddyn nhw enwau? Beth sydd yn eu meddyliau? Sut maen nhw’n teimlo o bosib?
4. Gan ddefnyddio’r swigod meddwl a siarad, lluniwch eich stori eich hun am sut mae cydsyniad yn bwysig i’r cymeriadau yn y stribed comig.
5. Lliwiwch y cymeriadau gan ddefnyddio’r paled lliwiau cwmwl teimladau.
6. Pan fyddwch chi wedi gorffen eich comig, beth am ffilmio neu greu sgrin-lun o bob tudalen, fel bod eraillyn gallu eu gweld a’u darllen. Neu dewiswch gomig arall, neu lyfr comig gwag.
7. Gallech chi greu sain-lun, gyda deialog ar gyferun o’r animeiddiadau sy’n symud. Pa stori rydych chi am ei hadrodd ynghylch sut mae cydsyniad yn cyfri i berthnasoedd cadarnhaol?
Cyn i chi ddechrau, darllenwch yr adran Diogelwch a Chefnogaeth ar sut i greu amgylchedd diogel, cadarnhaol a chynhwysol ar gyfer archwilio materion a allai fod yn sensitif.