twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

Gweithredaeth gan gefnogwyr yw pan fydd grwpiau cefnogwyr yn ysgogi  newid gwleidyddol ar faterion cymdeithasol trwy dynnu sylw at gysylltiadau rhwng diwylliant poblogaidd a’r byd go iawn.

Roedd y mudiad gweithredaeth gan gefnogwyr Prosiect Cydraddoldeb Glee yn cynnwys ailysgrifennu’r plotiau yr oedd cefnogwyr yn teimlo nad oeddent yn ymdrin yn llawn ag ymddygiad homoffobig neu drawsffobig cymeriadau allweddol yn y gyfres neu eu bod yn cyflwyno perthnasoedd heterorywiol yn wahanol i berthnasoedd LGBT+. Darllenwch eu Hadroddiad Cydraddoldeb ar gyfer Pennod 414 “I Do”. 

Darllenwch fwy am becynnau cymorth a gweithgareddau gweithredaeth gan gefnogwyr, gan gynnwys rhywiaeth a hunaniaethau rhywedd.

I gael gwybod mwy am rywiaeth mewn diwylliant poblogaidd, gweler:

Feminist Frequency a The Representation Project.

Dysgwch sut i herio adroddiadau negyddol o hunaniaethau a pherthnasoedd LGBTQI+ yn y cyfryngau. 

Rhowch gynnig ar Brawf Bechdel, sy’n graddio ffilmiau yn seiliedig ar y maen prawf eu bod yn cynnwys o leiaf ddau gymeriad benywaidd sy’n siarad â’i gilydd am rywbeth ar wahân i gymeriad gwrywaidd. 

Roedd gweithredaeth gan gefnogwyr The Hunger Games:  Catching Fire, ‘The Hunger Games are Real’, wedi sbarduno’r ymgyrch Odds In Our Favor a ofynnodd i gefnogwyr ‘ymuno â’r gwrthsafiad’ a rhannu storïau am anghyfiawnder economaidd a chymdeithasol o hiliaeth ac anghydraddoldeb dosbarth i gyflog cyfartal. Gwyliwch y fideo yma.

I gael gwybod mwy am gyflog cyfartal gweler yr EHRC a  Chymdeithas Fawcett 

Lawrlwythwch y PDF Syniad am Newid yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!