1: Meddyliwch am y pethau sy’n bwysig i chi mewn perthynas.Beth ydych chi ei eisiau, a pham?
2: Dewiswch berthynas sy’n arbennig i chi. Gallai fod ynrhywun rydych chi’n mynd allan gyda nhw, ffrind, aelod o’r teulu neu anifail anwes. Gallai fodyn wrthrych (e.e. ffotograff neudeganmeddal) neu’n lle(e.e. cuddfan neu fan ymgynnull leol).
3: Ewch i www.bishuk.com ac argraffu graff perthynas. Gweithiwch eich ffordd drwy’r segmentau a nodwch rai o’r pethau sy’n creu perthynas dda. Graddiwch nhw o 0-9.
4: Cysylltwch y dotiau i greu eich gwe berthynas bersonol.
5: Torrwch y siâp terfynol allan a’i ddefnyddio fel templed i greu eich addurniadau eich hun. Gallen nhw fod o bren, acrylig, cerdyn - pa ddeunyddiau bynnag gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw.
6: A oes coeden ar dir yr ysgol neu’r ganolfan gymunedlle gallwch chi hongian eich addurniadau? Efallai gallwch chi greu eich strwythur hongian eich hun o wifrau neu ffyn? Beth am eu harddangos ar un o’r diwrnodau cynyddu ymwybyddiaeth?