twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

 

 

1: Platiau STOPIO a DECHRAU! 

Rhowch 3 phlât papur coch “STOPIO” a 3 phlât papur gwyrdd “DECHRAU” i bawb. Os nad oes platiau ar gael, crëwch eich rhai eich hun gyda marcwyr coch a gwyrdd trwy dynnu cylch mawr ar bapur A4.

2: Crëwch ymadroddion STOPIO a DECHRAU

Meddyliwch am adeg pan wnaeth rhywun rywbeth nad oeddech chi’n ei hoffi neu reol neu hysbyseb a oedd wedi’ch tramgwyddo chi neu rywun sy’n agos atoch. Lluniwch ymadrodd sy’n disgrifio beth nad oeddech chi’n ei hoffi, gan ddechrau â’r gair “STOPIO...” Ysgrifennwch yr ymadrodd hwn ar y plât STOPIO. Yna, lluniwch ymadrodd sy’n disgrifio beth fyddech chi wedi’i hoffi yn lle, gan ddechrau â’r gair DECHRAU...” Ysgrifennwch yr ymadrodd hwn ar y plât DECHRAU.

3: Pan fydd eich platiau STOPIO a DECHRAU yn barod...

Defnyddiwch y pegiau a’r llinyn i gysylltu’r platiau a chreu llinell weithredu stopio/dechrau.

4: Gofynnwch i wirfoddolwyr ddarllen eu  platiau STOPIO/DECHRAU yn uchel.

5: Nawr meddyliwch sut i roi eich cynlluniau DECHRAU ar waith. 

6: Gallwch ddysgu sut dechreuodd pobl eraill arni yn Syniadau ar gyfer Newid a Gwneud i Berthnasoedd Cadarnhaol Ddigwydd. 

 

 

Dyma rai enghreifftiau Stopio a Dechrau:

STOPIO dweud nad yw bechgyn yn crïo. DECHRAU cefnogi anghenion emosiynol pawb. 

STOPIO hysbysebion sy’n stereoteipio bechgyn a merched. DECHRAU cydnabod sut mae stereoteipiau rhywedd yn cyfyngu ar bwy gallwch chi fod a beth gallwch chi ei wneud.

STOPIO codau gwisg ysgol ar sail rhywedd. DECHRAU datblygu polisi gwisg ysgol niwtral o ran rhywedd.

STOPIO’r distawrwydd ynghylch FGM. DECHRAU addysgu pobl am bob math o gam-drin a chamfanteisio rhywiol

STOPIO rhagdybio bod pawb yn heterorywiol. DECHRAU cynyddu ymwybyddiaeth o amrywiaeth rywiol.

 

STOPIO codi cywilydd arna i am fy nghorff. DECHRAU dangos parch ata i a’m corff.

Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.

Lawrlwythwch y PDF Gweithgaredd StARTer yma:

PDF ICON

Wedi’i addasu o girlsforgenderequity.tumblr.com/post/14065225237/sparkit

Download the entire AGENDA resource here!