twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

YMGYRCHOEDD #HASHNOD

Ymgyrchoedd hashnod yw pan fydd pobl yn cefnogi neu’n cychwyn ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter, Google+ a gwefannau rhwydweithio eraill. Yn aml, mae ymgyrchoedd hashnod yn cael eu defnyddio i roi’r si ar led a chysylltu sylwadau a syniadau am bwnc neu achos penodol trwy Twitter neu Instagram.

Mae #helpinghands yn ymgyrch hashnod sy’n gwahodd pobl i ysgrifennu addewid personol ar eu dwylo a’i bostio ar gyfryngau cymdeithasol i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant.

Mae llawer o ymgyrchoedd hashnod byd-eang sy’n mynd i’r afael â chydraddoldeb rhywedd, trais rhywiol a cham-drin domestig.

Ymgyrchodd y trydarathon #ICommit, dan arweiniad Cymuned Gweithredaeth Ifanc (YFA) y Gymdeithas er Datblygiad Menywod (AWID), i gynyddu ymwybyddiaeth fyd-eang o sut mae pobl o bob oed yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi gwaith a gweithredaeth cydraddoldeb rhywedd. 

Mae’r symudiad #MeToo yn ymgyrch yn erbyn aflonyddu rhywiol ac ymosodiad rhywiol. Lledaenodd #MeToo yn gyflym iawn ym mis Hydref 2017, ond fe’i sefydlwyd gan Tarana Burke yn 2006. Mae’n cael clod am ddod â sgyrsiau ynghylch trais rhywiol i’r brif ffrwd. metoomvmt.org

Darllenwch am sut gallwch ymgyrchu i roi terfyn ar fasnachu pobl a thrais ar sail anrhydedd.

Beth yw camfanteisio’n rhywiol ar blant? Gweler adnodd Barnardo’s Cymru a grëwyd ar gyfer pobl ifanc gyda phobl ifanc. 

Mae AWID (y Gymdeithas er Hawliau Menywod o ran Datblygu) yn sefydliad rhyngwladol sy’n gweithio i gyflawni cydraddoldeb rhywedd, datblygu cynaliadwy a hawliau dynol menywod ar draws y byd.

Mae Bridge yn sefydliad Mudiadau Rhywedd a Chymdeithasol lle gallwch ddod o hyd i lawer o waith ymchwil a deunyddiau ar-lein am sut mae pobl a grwpiau wedi cyflwyno safbwynt rhywedd i fudiadau cyfiawnder cymdeithasol ar draws y byd. Mae ganddyn nhw restr termau ddefnyddiol iawn am fudiadau rhywedd a chymdeithasol hefyd.

Mae YFA (Gwifren Ffeministiaid Ifanc) yn gymuned ar-lein sy’n cael ei chynnal ar gyfer a chan ffeministiaid ifanc sy’n gweithio ar hawliau dynol menywod, cydraddoldeb rhywedd a chyfiawnder cymdeithasol ar draws y byd. Mae ganddyn nhw lawer o adroddiadau a phecynnau cymorth sy’n gallu helpu pobl ifanc â’u gwaith creu newid, gan gynnwys canllaw ‘gwneud drosoch eich hun’ gwych ar ddiogelwch ar y rhyngrwyd i weithredwyr ifanc.

TUMBLR

Gwefan blogio yw Tumblr lle gallwch rannu lluniau, giffiau, fideos, cerddoriaeth, dyfyniadau, sgyrsiau, dolenni, a thestun i ganfod a dilyn yr hyn y dymunwch. Mae safleoedd Tumblr, fel blogiau, yn gallu cael eu gwneud yn bersonol ac yn breifat.

Dechreuodd Rose flogio ar Tumblr pan oedd hi’n 14 oed: “Mae’n fan diogel lle gallwch ddysgu a thrafod materion efallai na fyddech yn gallu sôn amdanynt mewn bywyd go iawn, fel iechyd meddwl neu ddelwedd y corff”.

Erbyn hyn, mae Rose, a fagwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn cymedroli’r safle Tumblr swyddogol ar gyfer y Prosiect Rhywiaeth Pob Dydd. Mae’r Prosiect Rhywiaeth Pob Dydd yn wefan lle gall menywod lanlwytho enghreifftiau o’r rhywiaeth maen nhw’n ei hwynebu bob dydd. Trwy rannu’r storïau hyn, mae’r prosiect yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r “rhywiaeth fach, pob dydd, rydych ni bron â’i derbyn am ei bod mor gyfarwydd”.

Mae YoungMindsVs yn ymgyrchu dros newid y maen nhw’n gobeithio y bydd yn gwella  iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae pynciau’n cynnwys bwlio, rhywioli, diweithdra, straen yn yr ysgol a chwnsela. Dysgwch sut i ddod yn weithredwr YoungMinds neu dilynwch #gettingthroughit. 

I gael gwybod sut mae rhywiaeth pob dydd yn ffurfio bywydau plant a phobl ifanc, darllenwch y storïau a’r dyfyniadau o’r prosiect Girls and Boys Speak Out a’r cardiau post y gellir eu lawrlwytho ar rywiaeth pob dydd, aflonyddu rhywiol a newid.

Mae heads above the waves (@HATW_uk)  yn sefydliad dielw sy’n cynyddu ymwybyddiaeth o iselder a hunan-niwed ymhlith pobl ifanc. Mae eu gwefan yn cynnwys blogiau pobl ifanc, mwy na 15 o wahanol safleoedd cymorth a llinellau cymorth, a ffyrdd creadigol o ymdopi â hunan-niwed ac iselder.

Gwnewch eich memyn eich hun yma gan ddefnyddio’r crëwr memyn.

Edrychwch ar yr ‘atebion aur’ ZipIt a grëwyd gan Childline i ddelio â negeseuon  neu geisiadau rhywiol digroeso. 

Beth fyddech  chi’n ei wneud?

FLOGIO

Flogio yw pan fydd pobl yn rhannu  eu syniadau trwy fideo. 

Gwrandewch ar sut mae merched yn eu harddegau’n gwyrdroi agweddau negyddol cyfryngau cymdeithasol. Mae rhai yn creu safleoedd sy’n annog sylwadau wedi’u tagio sy’n grymuso menywod ifanc yn hytrach na’u barnu. Mae eraill yn ymladd yn ôl yn erbyn codau gwisg rhywiaethol. 

Darllenwch fwy am bobl ifanc sy’n blogio ac yn flogio ar faterion sy’n ymwneud â rhywedd ac amrywiaeth rywiol.

Mae Sarah yn flogiwr o Vancouver, Canada.

Pan oedd hi’n 13 oed, gwnaeth flog ynghylch pam mae’n anghywir barnu merched am ymddygiad rhywiol. 

Gan ddefnyddio eu llais, testun, delweddau ac ap ‘celf glitch’, crëodd grŵp o fyfyrwyr Blwyddyn 6 flog am sut mae’r cyfryngau’n canolbwyntio ar storïau negyddol, fel trais ac arswyd, ac yn hidlo allan yr hyn mae pobl yn ei wneud i newid pethau.

Gwyliwch eu fideo ‘Filtering Our Feelings’ yma.

Darllenwch fwy am y prosiect i-motion yma.

Darllenwch am y mudiad SlutWalk trawsgenedlaethol lle mae pobl o bob oed yn gorymdeithio i alw am ddiwedd ar ddiwylliant sy’n esgusodi trais rhywiol trwy gyfeirio at unrhyw agwedd ar olwg merch neu fenyw.

Gweler Project Awesome i gael gwybod sut mae blogwyr a flogwyr ifanc yn codi arian ar gyfer materion go iawn, gan gynnwys materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb rhywiol a rhywedd. 

Lawrlwythwch y PDF Syniad am Newid yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!