twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

1: DEWISWCH REOL Mewn grwpiau, trafodwch ba reolau rydych chi eisiau eu newid i wneud y byd yn lle mwy cyfartal a theg i fyw o ran rhywedd. Neu dewiswch unrhyw bwnc rydych chi’n teimlo’n gryf amdano lle mae angen newid y rheolau! 

 

2: Rhowch un neges neu fwy am newid mewn GRAFFITI ar eich riwl. 

 

3: LLINELL WEITHREDU Gwirfoddolwyr o bob grŵp (neu bawb) i ffurfio llinell hir.  

 

4: ‘RELFIES’ RIWLIAU Daliwch ddwy riwl o flaen eich wyneb, a chael tynnu llun ‘Relfie’ Riwliau. 

 

5: RIWLIAU RHUGLO Llenwch y man lle rydych chi a dewiswch rywbeth (e.e. cadair, rheiddiadur, bwrdd) i ruglo’ch riwliau yn ei erbyn. Gwnewch gymaint o sŵn â phosibl. Recordiwch y sŵn! 

 

6: TRYDAR Lluniwch fideo byr i’w rannu ag ysgolion eraill, grwpiau ieuenctid neu sefydliadau. Defnyddiwch yr hashnod #dymasŵn <nodwch eich neges>. 

 

7: CREU Beth arall allwch chi ei wneud â’ch riwliau? Creu clogyn? Eu cyfuno i ffurfio llinell weithredu? Defnyddiwch eich dychymyg! 

Yn hoffi syniad y riwliau ond angen addasu?

 Argraffwch riwliau papur. Rhowch nhw ar bob sedd mewn neuadd ysgol neu ystafell ddosbarth. Gwahoddwch eraill i ysgrifennu ar gefn y riwliau papur pa reolau maen nhw eisiau eu newid. Casglwch nhw, a’u cyflwyno i’r sefydliad sydd â’r pŵer i wneud penderfyniadau ar y mater rydych chi wedi’i ddewis. 

Darllenwch stori Ruler HeART i gael eich ysbrydoli. 

 

Gall rheolau olygu cyfreithiau, polisïau, normau cymdeithasol a stereoteipiau -  unrhyw beth yr hoffech chi ei newid am sut mae pethau, sy’n ategu neu’n creu anghydraddoldeb     

 

RELFIE yw hun-lun perthynas. 

RELFIE RIWLIAU yw eich perthynas chi â’r newid rydych chi eisiau ei weld yn y byd.

 

Gwylio actifyddiaeth riwliau Cynulliad Ieuenctid Cydraddoldeb Rhywedd Unity #thisiswhatafemistassemblysoundslike 

 

 

#reassembling-the-rules for GENDER EQUALITY from Emma Renold on Vimeo.

Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.

Lawrlwythwch y PDF Gweithgaredd StARTer yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!