Barddoniaeth yw unrhyw fath o eiriau ysgrifenedig neu lafar sydd âphatrwm a rhythm. Gall cerddi fod mor greadigol ag y dymunwch, o farddoniaeth slam i gelf geiriau.Mae’r berthynas rhwng cerddi a gweithredaeth yn un hir ac agos, yn enwedig mewn mudiadau gwrth-wahaniaethu.
“Barddoniaeth yw’r ffordd rydym ni’n helpu i enwi’r dienw fel y gellir meddwl amdano. Mae gorwelion pellaf ein gobeithion a’n hofnau wedi’u seilio ar ein cerddi, a’u cerfio o graig profiadau ein bywydau beunyddiol”
Audre Lorde
Mae myfyrwyr ysgol uwchradd o bob rhan o ogledd a de Cymru yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Barddoniaeth Cymru bob blwyddyn. Darllenwch y cerddi Sticks and Stones a Blue for a Boy, Pink for a Girl sy’n cynyddu ymwybyddiaeth o seiber-aflonyddu rhywiaethol a rhywiol, a phwysau stereoteipio rhywedd.
‘I am not sugar and spice and everything nice. I am music, I am art, I am a story...’
Ysgrifennwyd y gerdd ffeministaidd hon gan blentyn 8 mlwydd oed dienw. Fe’i postiwydar-lein gan ei hathro a lledaenodd yn gyflym ar Twitter, yn enwedig y llinell olaf: “I am a rich pie strong with knowledge. I will not be eaten”.