twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

Creu deiseb yw un o’r ffyrdd mwyaf traddodiadol o sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a galw am newid. Yn y bôn, rydych chi’n anfon cais clir at wleidydd ynghylch yr hyn rydych chi am ei newid, wedi’i lofnodi gan gynifer o gefnogwyr â phosibl. Mae deisebau ar-lein yn ffordd fwyfwy poblogaidd o gysylltu ag eraill. Mae llawer o bobl yn defnyddio Facebook i hyrwyddo, rhannu a chasglu llofnodion ar gyfer deisebau.   

Pan oedd hi’n 17 oed, dechreuodd ac enillodd Fahma ymgyrch gyda’i ffrindiau trwy Change.Org, sef gwefan deisebau ar-lein. Galwodd ei hymgyrch ar yr ysgrifennydd addysg i ysgrifennu at arweinwyr pob ysgol gynradd ac uwchradd i sôn am beryglon anffurfio organau rhywiol merched (FGM)  cyn gwyliau’r haf, pan fydd merched yn y perygl mwyaf. Gwrandewch ar y grŵp yn siarad am eu hymgyrch yma.

Gall unrhyw un ddeisebu llywodraeth y Deyrnas Unedig ar yr amod ei fod yn Ddinesydd Prydeinig neu’n byw yn y Deyrnas Unedig. Os bydd deiseb yn cael 10,000 o lofnodion, bydd y llywodraeth yn ymateb. Os bydd yn cael 100,000 o lofnodion, bydd yn cael ei hystyried i’w thrafod yn y senedd. Dysgwch fwy am sut i gyflwyno deiseb i Lywodraeth a Senedd y Deyrnas Unedig yma.

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru Bwyllgor Deisebau - ar yr amod eich bod chi’n casglu 10 llofnod, bydd gwleidyddion yn y Cynulliad yn trafod eich mater. Gall fod yn ffordd wych o gynyddu ymwybyddiaeth o’ch ymgyrch. Dysgwch fwy am sut i gyflwyno deiseb i’r Cynulliad yma.

Mae grŵp o fyfyrwyr blwyddyn chwech wedi bod yn dysgu am gydraddoldeb a hawliau rhywedd a rhywiol trwy’r flwyddyn. Aethon nhw ati i lunio ymgyrch a oedd yn annog pobl i feddwl am effaith niweidiol stereoteipiau rhywedd. Gwisgodd y myfyrwyr mewn pinc a glas am ddiwrnod i gynyddu ymwybyddiaeth o liwiau stereoteipio. Creodd y grŵp hefyd rubanau yn null yr ymgyrchwyr dros bleidlais i fenywod (suffragettes) er mwyn amlygu sut roedd eu hymgyrch yn ymwneud â materion ehangach hawliau cyfartal. Yna, fe wnaethon nhw gychwyn deiseb ar change.org i gynyddu ymwybyddiaeth o stereoteipio rhywedd, a gwahodd eraill i ymuno â’u hachos. 

I gael gwybod mwy am FGM, a sut mae pobl ifanc yng Nghymru yn mynd i’r afael â’r mater hwn,  darllenwch am yr ymgyrch poster a ffilm, Lleisiau Dros Ddistawrwydd. 

Gweler hefyd www.avaaz.org - sef mudiad byd-eang ar y we a chymuned ymgyrchu ar-lein sy’n dod â ‘gwleidyddiaeth y bobl i brosesau penderfynu ym mhobman’. 

 

Lawrlwythwch y PDF Syniad am Newid yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!